Cyfweliad gyda'r Prif Hyfforddwr ar gyfer Nofio Anabledd Prydain, Billy Pye
Disgrifiadau
Cyfweliad gyda Billy Pye Dwi'n dod yn wreiddiol o Flaengwynfi yn Nyffryn Afan Uchaf. Symudais i lawr i Gastell-nedd pan gefais fy ngalw i arwain y Ganolfan Perfformiad Uchel yn Abertawe. Fi yw'r Prif Hyfforddwr ar gyfer Nofio Anabledd Prydain. Roedd gennym un nofiwr yng Ngemau Paralympaidd Sydney 2000, wyth nofiwr yng Ngemau Paralympaidd Athen 2004, a deg nofiwr yn Beijing ar gyfer Gemau 2008. Ar hyn o bryd, mae gennym ddeg yn y Ganolfan Perfformiad, ac mae'n bur debygol wrth fynd i Lundain 2012, y bydd gennym ni rhwng naw a deuddeg o nofwyr wedi'u lleoli yn y Ganolfan. Mae llawer o bobl wedi bod yn anogaeth i mi ar hyd y blynyddoedd, nid o ran nofio yn unig, ond mewn chwaraeon yn gyffredinol. O ran nofio, mae'n debyg mai fy nghof cynharaf o'r cyfnod hwnnw oedd medal arian Martin Woodroffe yn y ras 200m Pili Pala. Rwyf wedi bod yn ymwneud â nofio ers oedran ifanc, o tua deuddeg i dair ar ddeg oed. Yn bymtheg, un ar bymtheg oed, roeddwn i'n weddol dda, ond yn anffodus arhosais yn fach. Tyfodd y rhai yr oeddwn i'n rasio yn eu herbyn nhw, a dechreuon nhw fy nghuro i. Dechreuais hyfforddi tua 1979/80, fel hyfforddwr yn fy nghlwb lleol ym Mynydd Cynffig, ac wedyn yn Sgwad Nofio Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl hynny, cefais secondiad i Nofio Prydain yn 2003 i arwain y Ganolfan Perfformiad wrth baratoi am Gemau Paralympaidd Athen. Roeddwn yn nofio yn ifanc iawn, ac wrth fy modd yn gwneud hynny, a dechreuais hyfforddi pan gafodd fy merch ei geni yn bennaf, ychydig cyn hynny. Cafodd ei geni ym 1986 a phan ddechreuodd nofio'n gystadleuol, symudodd o glwb bychan o nofwyr cystadleuol, ac wrth iddi ddatblygu a nofio dros y Sgwad Sirol ac wedyn ar lefel ryngwladol, symudodd i fyny'r ysgol. Felly o glwb bychan yng Nghynffig i glwb mwy yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr ac yna'r uchafbwynt gydag enillwyr y medalau Paralympaidd yn y Ganolfan Perfformiad newydd yn Abertawe. y gorau un Mae nofio yn rhoi llawer o foddhad i mi. I ddechrau, rwyf wrth fy modd â'r gamp ei hun; yn ail, gan fod gen i athletwyr gwych ac yn drydydd, yr eisin ar y gacen yw mai'r athletwyr hynny yw'r rhai gorau yn y byd. Tua phymtheng mlynedd yn ôl roeddwn yn hoffi dysgu plant o oedran ifanc hyd at y nofwyr hŷn, ac wedyn yn fwy diweddar, dros yr wyth mlynedd diwethaf, rwyf wedi hyfforddi goreuon y byd. Wrth hyfforddi nofwyr, rydych chi'n cael gweld cymaint o wledydd hyfryd, ac rwyf wedi bod yn sawl rhan o'r byd. Aethon ni i lefydd fel Durban, De Affrica ar gyfer Pencampwriaeth y Byd yn 2006; aethon ni i Athen yn 2004 ar gyfer y Gemau Paralympaidd; aethon ni i Tsieina yn ddiweddar, yn Beijing yn 2008; ac eleni rydyn ni'n mynd i Eindhoven yn yr Iseldiroedd ar gyfer Pencampwriaeth y Byd ym mis Awst. Rydyn ni wedi bod i Melbourne gyda Chymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad; byddwn ni'n mynd i'r India hefyd. Yn anffodus rwyf ar dîm Lloegr ar gyfer y daith honno gan y byddaf yn rhoi pum nofiwr o Loegr ar y tîm, ond fydd dim ots gennym ni am hynny gan mai Sam [Hynds] yw un ohonyn nhw. Roedd Beijing yn brofiad gwych gan ei fod yn golygu mynd i Tsieina. Roedd y gemau mewn gwlad fawr ac fe gynhalion ni Gemau Paralympaidd ffantastig. Ond rwy'n credu mai fy hoff emau erioed yw'r Gemau yn Athen 2004, gan mai dyna o le tarddodd y Gemau Olympaidd, felly roedd hi fel pe baen ni'n dychwelyd i'w gwlad enedigol. hyfforddi'r hyfforddwyr Mae'n debyg ein bod yn mynd drwy brofiad tebyg i'ch athrawon. Rwy'n athrawes Ysgol Gynradd fy hun. Rhoddais y gorau i hynny i ddod yn hyfforddwr gan fod dysgu mewn Ysgol Gynradd yn rhy galed. Does dim ots gen i ddweud hynny. Mae'n swydd galed iawn. Rydyn ni'n mynd drwy'r un trefnau lle mae'n rhaid i ni fynd ar gyrsiau, llwyddo mewn arholiadau, mynd ar y cwrs nesaf, llwyddo mewn arholiadau, felly mae'n brofiad tebyg iawn i'ch athrawon mae'n debyg, a chael gradd yn y pen draw. Rydw i ar lefel pump. Mae'n cael ei gynnal mewn pum cam, ac rydw i ar lefel pump, felly'r lefel uchaf, felly'r unig beth y gallaf ei wneud yw gwella a chael mwy o brofiad dros y blynyddoedd nesaf, yn hytrach nag ennill mwy o gymwysterau. ar ein gorau Y sylw maen nhw'n ei roi i fanylder bob dydd. Maen nhw yn y pwll am chwech o gloch y bore, ac rydyn ni'n dal yn y pwll am chwech o'r gloch y nos. Rhwng hynny rhaid i ni fwyta, rhaid i rai fynd i'r ysgol, rhaid i rai fynd i'r brifysgol ac rydyn ni yn yr ystafell ffitrwydd hefyd, felly maen nhw'n grŵp hynod ddisgybledig o athletwyr. Rydyn ni'n pryderu, yn mynd yn nerfus, ond rydyn ni'n gwybod beth rydyn ni wedi'i wneud yn ystod y mis cynt, ein bod ni wedi gwneud ein gorau glas. Felly, os byddwn ni'n ennill, byddwn ni'n ennill, a bydd hynny'n wych, ond os deuwn ni'n ail, yn drydydd neu'n bedwerydd, mae hynny hefyd yn wych, am ein bod ni'n gwybod ein bod wedi rhoi pob dim, ac mai dyna'r gorau y gallwn ni fod. beijing Rwy'n meddwl mai'r gystadleuaeth galetaf hyd yma oedd Gemau Paralympaidd 2008 Beijing. Mae'n golygu mynd i wlad heb lawer o wybodaeth am y cyfleusterau fydd yno, felly roedd fel pe bai'n gam i'r anwybod, a phan gyrhaeddon ni'r pwll nofio yn y Ganolfan Ddŵr yn Beijing, roedd hi'n ddigon tebyg i fod yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Roedd yn ganolfan enfawr, a phan fydd gennych chi dros ugain mil o gefnogwyr Tsieineaidd yn sgrechian ac yn gweiddi i gefnogi'r rhai sydd yn nofio yn erbyn eich nofwyr chi, mae hynny'n ddigon i ddychryn rhywun. Felly dyna oedd un o'r rhai mwyaf anodd, ond yn ffodus dyna oedd yr un fwyaf lwyddiannus i Brydain Fawr, ond yn bennaf i ni fel grŵp yn Abertawe, grŵp mwyaf llwyddiannus chwaraeon Prydain. Mae'n ddywediad mewn Chwaraeon Perfformiad mai eich nofiad diwethaf, eich gêm bêl droed ddiwethaf, eich digwyddiad athletau diwethaf yw'r un mwyaf cofiadwy, felly er i ni brofi Pencampwriaeth Ewrop y llynedd a Phencampwriaeth y Byd i lawr ym Mrasil, Gemau Beijing 2008 oedd y rhai mwyaf heriol. mwy, mwy, mwy Aethon ni i Sydney gydag un nofiwr ac ennill pedair medal aur a dwy fedal arian; aethon ni i Athen ac ennill naw medal aur - cyfanswm o dair medal ar ddeg; aethon ni i Beijing ac ennill un fedal aur arall ac un fedal arian arall, felly, rydyn ni wastad am ennill mwy, mwy, mwy. Y nod uchaf y bydd rhywun yn anelu ato mewn unrhyw chwaraeon, o bosib, yw gwneud ychydig yn well neu ennill un yn fwy na'r tro diwethaf, a byddai hynny'n golygu ennill deg medal yn Llundain 2012. Breuddwyd ydi hi, ond mae gan bawb freuddwyd, a gobeithio y gallwn gyrraedd y nod yna. Athletwyr o Gymru, ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, rydym yn nofio ac yn cystadlu fel Cymru. Ar gyfer Gemau Olympaidd / Paralympaidd Llundain 2012, nid fel Cymru yr ydyn ni'n ymddangos, ond fel Prydain Fawr. Rydw i'n meddwl y bydd athletwyr o Gymru sy'n cynrychioli Prydain Fawr yn gwneud yn dda. Gobeithio, o groesi bysedd, y byddwn ni'n dod ag ambell fedal yn ôl i Gymru. gwneud ffrindiau Hyd yn oed wrth ddysgu sut i nofio neu ddysgu sut i gicio pêl rygbi neu bêl droed, rydw i'n meddwl eich bod chi'n gwneud ffrindiau'n naturiol oherwydd ethos chwaraeon. Ac yn ein camp ni, nofio, mae'n ddigwyddiad tîm, ond pan fyddwch yn mynd ar y bloc i nofio, mae'n ddigwyddiad unigol ac mae hynny'n iawn, ond mae gennych lawer o ffrindiau o hyd o amgylch y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn, mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl. y swydd orau yn y byd Dydw i erioed wedi ystyried rhoi'r gorau iddi. Rwy'n reit ffodus gan fy mod wrth fy modd yn mynd i'r gwaith. Rydw i'n edrych ymlaen ac yn gweld pob diwrnod fel her. Rwyf wedi fy amgylchynu â nofwyr gwych. Mae gen i dîm o gynorthwywyr gwych ac aelodau gwych o staff. Dydw i erioed wedi ystyried rhoi'r gorau iddi ...ond weithiau ar fore gwlyb ym mis Rhagfyr pan na fydda i'n teimlo fel dod allan o'r gwely i fynd i hyfforddi am bump o'r gloch! Fel pob plentyn ifanc, roeddwn i am fod yn bêl droediwr proffesiynol. Yn anffodus, doeddwn i ddim yn ddigon da i wneud hynny, ond mae'r yrfa a'r gamp yr wyf wedi'i dewis yn un yr wyf yn credu ynddi'n angerddol ac sydd wrth fodd fy nghalon, ac i mi, dyma yw'r swydd orau yn y byd. (Cynhaliwyd y cyfweliad hwn gan blant o Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe.)
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment