Skip to main content

Gegin bwrpasol o ddechrau'r 1970au ym Mryndraenog, Bugeildy.

Disgrifiadau

Yn y gegin bwrpasol hon o ddechrau'r 1970au ym Mryndraenog, Bugeildy, fe welwn ni ddechreuadau math newydd o gegin, un ag arwynebau hawdd eu glanhau a dyfeisiau ffasiynol i arbed gwaith - fel yr agorwd tuniau ar y wal, y cyflenwr te, y tostiwr a'r tegell. Mae defnyddiau newydd fel Formica, dur di-staen a phapur wal sy'n hawdd ei lanhau yn golygu bod y gegin, serch ei bod yn ofod ymarferol, yn lle dymunol yr olwg. Yn ddiddorol ddigon, ffwrn fach sydd yno yn lle un fawr ac mae'r bwrdd ciniawa â dalennau plyg yn llai nag y disgwylid ei weld mewn tŷ arferol. Mae'r hambwrdd lliwgar yn dwyn i gof y math newydd o wyliau hedfan rhatach, ac yn y gegin y câi eitemau o'r fath, fel lliain llestri â rysáit arno, eu harddangos fel rheol.

Owner:
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales / Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Crëwr:
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales / Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
3/6/2014
Gwelediadau:
1549
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment