Skip to main content

Cae'r-gors, Rhosgadfan, Sir Gaernarfon - Animeiddiad

Disgrifiadau

Cae'r-gors, Rhosgadfan, Sir Gaernarfon - Animeiddiad gan y Comisiwn Brenhinol
Er mai oherwydd i'r llenor Kate Roberts (1891--1985) fyw yng Nghae'r-gors yn blentyn yr aethpwyd ati i ddiogelu ac adfer y tyddyn hwn, mae'n bwysig fel mynegiant o ffordd o fyw gweithwyr y chwareli llechi yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Brithir bryniau ardal Rhosgadfan â thyddynnod fel Cae'r-gors, ac mae llawer ohonynt wedi'u hestyn a'u moderneiddio. Yn wahanol i lawer ardal lle codwyd cartrefi pwrpasol i'r gweithwyr diwydiannol, trigai teuluoedd y chwarelwyr yma mewn bythynnod bach unigol a bythynnod pâr digon gwledig eu golwg.

Un o chwe animeiddiad sy'n ail-greu gwahanol fathau o dai hanesyddol yng Nghymru. Crëwyd gan CBHC a See3D Ltd i'r gyfres deledu 'Cartrefi Cefn Gwlad Cymru' (cynyrchiadau Fflic) ar S4C. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: 2010.

Owner:
RCAHMW
Crëwr:
RCAHMW and See3D Ltd.
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
8/5/2014
Gwelediadau:
1393
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment