Lluniad gan Falcon Hildred. Tŷ Uncorn, 1978. FHA 01/142
Lluniad gan Falcon Hildred. Tŷ Uncorn, 1978. FHA 01/142
Disgrifiadau
Lluniad gan Falcon Hildred. Tŷ Uncorn ym Mlaenau Ffestiniog yw un o’r adeiladau domestig hynaf sy’n gysylltiedig â’r diwydiant llechi yn y dref sydd wedi goroesi. Cafodd ei adeiladu tua 1810 gan yr Arglwydd Newborough yn gartref i chwarelwyr, ar ffurf pedair annedd wedi’u clystyru o amgylch simnai ganolog gyffredin. Mae’r enw, wrth gwrs, yn golygu ‘tŷ ag un corn’ ac mae cyfeiriad yma hefyd at yr anifail chwedlonol, yr uncorn, ond weithiau caiff y tŷ ei alw’n ‘Tŷ Potel Inc’ oherwydd y tebygrwydd rhyngddo a siâp potel inc wydr draddodiadol.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment