Skip to main content

Ystrad Einion: Dod â Mwynglawdd Metelau yng Ngogledd Ceredigion yn fyw

Disgrifiadau

O’r golwg mewn cilfach dawel yng Nghwm Einon yng ngogledd Ceredigion mae un o emau diwydiannol cudd Cymru, sef mwynglawdd metelau Ystrad Einon. Bu pobl yn cloddio am blwm, arian a metelau eraill yma ar raddfa fach ers y 18fed ganrif, ond degawdau olaf y 19eg ganrif a welodd y gweithgarwch mawr yno. O weld cyfle i wneud arian, aeth y mentrwr o Sir Gaerhirfryn, Adam Mason, ati i gael prydles ar y tir a gwario dros £3000 ar brynu’r offer diweddaraf.
Mwynglawdd cymharol fach oedd hwn. Yn ôl adroddiad a luniwyd ym 1891, doedd ond 11 o fwyngloddwyr yn gweithio yno: naw dyn yn gweithio dan ddaear a dau lanc 13 ac 18 oed ar yr wyneb. Colledion enbyd a wnaed yn Ystrad Einon ac o edrych yn ôl gallwn weld i Adam Mason a’i offer gyrraedd yno’n rhy hwyr. Roedd y mwynau ar fin dod i ben, costau mwyngloddio’n cynyddu a mewnforion rhad o dramor wrthi’n bygwth ac, yn y pen draw, yn dinistrio mwyngloddio ym Mhrydain. Ym 1903 fe gaewyd y mwynglawdd am y tro olaf a gwerthu neu sgrapio llawer o’r peiriannau.
Gall y cyhoedd ymweld â mwynglawdd metelau Ystrad Einon, a bydd ffrwyth gwaith dehongli newydd i’w weld ar y safle erbyn haf 2011. Mae gwaith y Comisiwn Brenhinol yn Ystrad Einon wedi’i gyflawni mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a’u prosiect PLWM, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru. Cysylltau:O’r golwg mewn cilfach dawel yng Nghwm Einon yng ngogledd Ceredigion mae un o emau diwydiannol cudd Cymru, sef mwynglawdd metelau Ystrad Einon. Bu pobl yn cloddio am blwm, arian a metelau eraill yma ar raddfa fach ers y 18fed ganrif, ond degawdau olaf y 19eg ganrif a welodd y gweithgarwch mawr yno. O weld cyfle i wneud arian, aeth y mentrwr o Sir Gaerhirfryn, Adam Mason, ati i gael prydles ar y tir a gwario dros £3000 ar brynu’r offer diweddaraf.
Mwynglawdd cymharol fach oedd hwn. Yn ôl adroddiad a luniwyd ym 1891, doedd ond 11 o fwyngloddwyr yn gweithio yno: naw dyn yn gweithio dan ddaear a dau lanc 13 ac 18 oed ar yr wyneb. Colledion enbyd a wnaed yn Ystrad Einon ac o edrych yn ôl gallwn weld i Adam Mason a’i offer gyrraedd yno’n rhy hwyr. Roedd y mwynau ar fin dod i ben, costau mwyngloddio’n cynyddu a mewnforion rhad o dramor wrthi’n bygwth ac, yn y pen draw, yn dinistrio mwyngloddio ym Mhrydain. Ym 1903 fe gaewyd y mwynglawdd am y tro olaf a gwerthu neu sgrapio llawer o’r peiriannau.
Gall y cyhoedd ymweld â mwynglawdd metelau Ystrad Einon, a bydd ffrwyth gwaith dehongli newydd i’w weld ar y safle erbyn haf 2011. Mae gwaith y Comisiwn Brenhinol yn Ystrad Einon wedi’i gyflawni mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a’u prosiect PLWM, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru. Cysylltau:
Cofnod Ystrad Einon yn Coflein Plwm Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru
Cofnod Ystrad Einon yn Coflein Plwm Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru

Crëwr:
RCAHMW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
7/3/2014
Gwelediadau:
1047
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment