Yn yr ardd
Disgrifiadau
Bwriad a nod ymchwiliad hanesyddol Ysgol Gymraeg Teilo Sant oedd datblygu gardd yr ysgol i gyfleu cyfnodau amrywiol yn hanes Cymru. Drwy hyn byddai'n dod â hanes yn fyw i holl blant yr ysgol a chlymu'r gymuned i fod yn rhan o'r gwaith hefyd wrth gael cefnogaeth rhieni a chwmniau lleol gyda defnyddiau a planhigion. Plannwyd llysiau yn yr ardd fel cennin, tatws, moron, perlysiau fel brenhinllys, persli, cennin syfi, mintys amrywiol, teim, blodau, llwyni ffrwythau a choed afalau, i gyd-fynd â themau y dosbarthiadau ac addas i'r cyfnodau amrywiol. Trefnwyd yr ardd yn null patrymau rhai cyfnodau hanesyddol. Ymchwiliwyd i wahanol agweddau gan flynyddoedd amrywiol yr ysgol. Llawn brwdfrydedd oedd y Dosbarth Meithrin wrth edrych ar blanhigyn y lafant gan edrych ar ei nodweddion defnyddiol. Bu'r dosbarth yn peintio lluniau, creu bagiau persawr, lliwio defnydd a mwynhau ei arogl. Edrych ar lysiau bu'r Dosbarth Derbyn gan fraslunio a phrintio lluniau a choginio cawl gan ddefnyddio llysiau a mwynhau ei fwyta yn awchus. Yn nosbarth Blwyddyn 1 crewyd model o hen sied arddio a chreu darluniau manwl o siediau o gynlluniau amrywiol ac offer garddio traddodiadol gan gynnal trafodaethau amdanynt a'r newidiadau. Perlysiau oedd thema Blwyddyn 2 gan astudio hanes Meddygon Myddfai. Buont yn tyfu perlysiau a'u trawsblannu i'r ardd, mynd ar ymweliad â'r Ardd Fotaneg Genedlaethol i astudio perlysiau ac arddangosfa Meddygon Myddfai, gwneud gwaith celf gyda pherlysiau, creu llyfrau fel y Meddygon yn dangos gwerth meddygol rhai perlysiau. Ym mlynyddoedd 3 a 4 aeth y plant ati i chwilio am wybodaeth am erddi, siapau caeau a gerddi addurnol a chynnwys gerddi y cyfnodau gwahanol.Gwnaed cynlluniau ac edrychwyd ar blanhigion. Crewyd arddangosfeydd manwl yn cyflwyno'r gwaith yn lliwgar a diddorol.Gwaith cywrain iawn oedd gan Flwyddyn 5. Astudiwyd cyfnod Fictoria gan ddarganfod pecynau hadau a sylwi ar liwiau gwahanol - defnyddio llysiau wedyn i liwio defnydd gyda'r sudd, plannu planhigion fel tatws a blodau yn yr ardd yn null y bonedd ac fel y tlodion mewn unrhywbeth oedd i'w gael, creu modelau 3D o erddi'r bonedd a'r patrymau amrywiol.Yr ail Ryfel Byd oedd thema Blwyddyn 6. Aethant am ymweliad ag Amgueddfa yr Ail Ryfel Byd, astudio'r cyfnod a chreu lloches Anderson oedd fel arfer yn eu gerddi ac astudio pa gynnyrch oedd pobl yn tyfu er mwyn helpu gydag ymdrech y rhyfel.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment