Kate Roberts
Disgrifiadau
Kate Roberts (1891-1985). Nofelydd, awdur storïau byrion a gohebydd llenyddol. Cydnabyddir yn gyffredinol mai hi yw'r awdur rhyddiaith mwyaf nodedig yn y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Cafodd ei geni a'i magu yn Rhosgadfan, un o bentrefi ardal y chwareli yn sir Gaernarfon pan oedd y diwydiant hwnnw ar ei anterth, yn cyflogi tua dwy fil ar bymtheg o ddynion ac yn cynnal diwylliant a oedd yn gyfan gwbl Gymraeg ei iaith. Yr oedd ganddi afael ar dafodiaith gyfoethog a bywiog trwy gydol ei hoes. Ond cafodd hefyd addysg drwyadl mewn Cymraeg llenyddol, ac astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, o dan John Morris-Jones ac Ifor Williams. Bu'n athrawes Gymraeg wedyn yn Ysgol Ystalyfera, Morg., (1915-17) ac yno bu Gwenallt (David James Jones) yn ddisgybl iddi, ac yn ysgol Aberdâr, Morg. (1917-28). Yn 1928, priododd â Morris T. Williams, ac wedi cyfnod yng Nghaerdydd a Thonypandy (1929-35) prynodd y ddau Wasg Gee, cyhoeddwyr y papur newydd Baner ac Amserau Cymru, ac ymgartrefu yn Ninbych. Pan fu farw ei gŵr yn 1946, cynhaliodd Kate Roberts y busnes ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd arall. Yn ogystal â chyhoeddi Y Faner cyfrannodd yn gyson at ei cholofnau, gan ysgrifennu erthyglau ar amryw o bynciau, rhai llenyddol, gwleidyddol a rhai ar waith tŷ. Yn ei henaint derbyniodd nifer o anrhydeddau gan Brifysgol Cymru, Cymdeithas Anrhydeddus y Cymrodorion a Chyngor Celfyddydau Cymru, ac yn 1982 trefnwyd tysteb genedlaethol iddi. Gellir rhannu gwaith creadigol Kate Roberts yn ddau gyfnod pendant: y mae'r cyntaf yn cynnwys O Gors y Bryniau (1925), Deian a Loli (1927), Rhigolau Bywyd (1929), Laura Jones (1930), Traed Mewn Cyffion (1936) a Ffair Gaeaf (1937); wedyn bu bwlch o ddeuddeng mlynedd yn ei gwaith creadigol cyn yr ymddangosodd ei llyfrau eraill, Stryd y Glep (1949), Y Byw Sy'n Cysgu (1956), Te yn y Grug (1959), Y Lôn Wen (1960),Tywyll Heno (1962), Hyn o Fyd (1964), Tegwch y Bore (1967), Prynu Dol (1969), Gobaith (1972), Yr Wylan Deg (1976) a Haul a Drycin (1981). Y mae'n debyg mai colled bersonol a fu'n sbardun iddi yn nau gyfnod ei gwaith creadigol. Yn ôl ei thystiolaeth ei hun y Rhyfel Byd Cyntaf, pan laddwyd un brawd iddi, a phan gollodd brawd arall ei iechyd, a'i gyrrodd yn gyntaf i lenydda, fel rhyw fath o reidrwydd therapiwtig er mwyn cael gwared â'i baich. Y mae ei nofel fer Traed Mewn Cyffion yn ymwneud â theulu o chwarelwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ynddi adlewyrchir dioddefaint arwrol gwerinwyr o Gymry sy'n gweld eu meibion yn gorfod mynd i ryfel sy'n amherthnasol iddynt, a hynny yn ychwanegol at galedi cyffredinol eu bywyd. At ddiwedd y nofel penderfyna un o'r prif gymeriadau fod dioddef yn dawel yn waith ofer, a bod yr amser wedi dod i weithredu. Gall hyn awgrymu penderfyniad Kate Roberts ei hun i ddatblygu'n ohebydd papur newydd ymosodol, ac i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Bu'n aelod o Blaid Genedlaethol Cymru (sef Plaid Cymru yn ddiweddarach) o'i chychwyn cyntaf, gan gyfrannu'n helaeth i bapur newydd y Blaid, Y Ddraig Goch. Er mai ychydig iawn o weithiau Kate Roberts sy'n cynnwys themâu cyhoeddus y maent yn adlewyrchu cymdeithas sydd yn ffurfio ac yn aml yn cyfyngu ar fywydau ei phobl. Yn fynych ceir portread o fywyd y cartref o safbwynt profiad gwraig, ond yn ei gwaith cynnar ceir bob amser hefyd sŵn cerddediad y dynion yn mynd ac yn dod o'r chwarel, ac weithiau daw'r newydd am ddamwain yn y chwarel neu hanes marwolaeth araf ar yr aelwyd. Daeth pridd tenau a charegog Arfon yn olygfa ac yn symbol o fywyd caled ond urddasol cymdeithas sy'n byw mewn angen. Er nad oedd yn awdures grefyddol llwyddodd Kate Roberts bob amser i ganfod cryfder diwylliant Piwritanaidd ei phlentyndod, ac yn fwyaf arbennig, ei difrifoldeb dwys wrth wynebu cwestiynau mawr bywyd. Ond llwyddodd hefyd i gyfleu'r drasiedi a ddaw yn sgil anwybyddu'r emosiwn. Yn un o'i storïau byrion, 'Y Condemniedig', gorwedd chwarelwr mewn cystudd yn ei gartref, o dan bwys ei waith a'i arfer o anwybyddu'r emosiwn (sydd ynddo'i hun yn ymateb i galedi bywyd) ni lwyddodd erioed i lwyr adnabod ei wraig. Ond bellach, y mae ganddo'r hamdden i'w gwylio'n crasu bara, ac i siarad â hi. Yn fuan, â yn rhy wan i wneud hynny hyd yn oed. 'Pan oedd ar fin colli peth, dechreuodd ei fwynhau.' Yn y dywediad hwn gwelir ar raddfa fechan y ffurfioldeb grymus hwnnw sy'n cuddio emosiynedd dwfn, ac sydd mor nodweddiadol o waith Kate Roberts. Ar ôl marwolaeth ei gŵr yn 1946 dychwelodd at lenydda'n greadigol. Yr oedd gwaith ei blynyddoedd olaf yn aml yn ymwneud â gwragedd neu hen bobl yn byw ar eu pennau eu hunain, mewn cyfnod mwy cysurus yn allanol, ond eto yn methu cael y gynhaliaeth gymdeithasol honno a gafwyd gynt. Daeth llymder y tir a diwylliant Piwritanaidd ei hieuenctid yn rhyw fath o safon fewnol a ddefnyddid ganddi weithiau i feirniadu byd arwynebol y gyfathrach dorfol, y gwyliau tramor a'r ysgariadau hawdd. Ond weithiau yr oedd yn gallu amau'r safonau hyn yn wyneb newidiadau cyfoes. Dywed cymeriad yn un o'i storïau diweddar, sy'n awdur ei hun: 'Yr oedd wedi sgrifennu am bobl a chanddynt asgwrn cefn, ac wedi cyrraedd oes pan oedd sliwod yn ceisio dal y byd i fyny: ac eto, yr oedd lle i sliwod mewn bywyd ac mewn llenyddiaeth'. Gwelir ochr ysgafnach i waith Kate Roberts yn ei llyfrau ar gyfer ac am blant, fel Deian a Loli, Laura Jones a Te yn y Grug. Y mae'r gyfrol olaf yn gampwaith bychan sy'n llwyddo i ddal ffresni plentyndod heb fymryn o ordeimladrwydd ond gyda digon o sylwgarwch cymdeithasol treiddgar. Ond ceir bywiogrwydd arbennig hyd yn oed i'w storïau tywyllaf a ddaeth i raddau helaeth o dyndra ei ffurf a'i harddull ac a adlewyrchodd ei stoiciaeth ddewr. Yn ffurf y stori fer, a oedd yn gweddu cystal i'w doniau arbennig hi, meistri Kate Roberts ydoedd Chekhov, Maupassant, Strindberg a Katherine Mansfield. Gosodir ei defnydd o ddeialog tafodieithol mewn arddull storïol ofalus sy'n cynnal ac yn rheoli'r emosiwn yn effeithiol. Ond mewn paragraff neu ddau wedyn gallai ofyn y cwestiynau dynol mawr hynny a gawn yn aml mewn llenyddiaeth Rwsieg, ond a welir yma yn digwydd mewn cymdeithas Gymraeg ac sy'n perthyn i genhedlaeth neu ddwy yn ôl. Bu Saunders Lewis ymhlith y cyntaf i werthfawrogi gwaith Kate Roberts, a buont yn ohebwyr cyson am drigain mlynedd, gan drafod bywyd a llenyddiaeth Cymru a'r Blaid Genedlaethol. Y mae'r casgliad llythyrau a ymddangosodd wedi i'r ddau farw gyda dogfennau llenyddol pwysicaf eu cyfnod. Gwelir casgliad cynrychioliadol o newyddiaduraeth lenyddol Kate Roberts yn Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol (gol. David Jenkins, 1978). Ceir astudiaethau beirniadol o'i gwaith yn Enaid Clwyfus (1976) gan John Emyr, a monograff yn y gyfres Writers of Wales (1974) gan Derec Llwyd Morgan. Gweler hefyd Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (gol. Bobi Jones, 1969), Bro a Bywyd Kate Roberts (gol. Derec Llwyd Morgan, 1981), Kate Roberts a'i Gwaith (gol. Rhydwen Williams, 1983) a'r cyfweliad a gynhwysir yn Crefft y Stori Fer (gol. Saunders Lewis, 1949). Casglwyd yr ohebiaeth rhwng Saunders Lewis a Kate Roberts ynghyd yn y gyfrol Annwyl Kate, Annwyl Saunders - gohebiaeth 1923-1983 (gol. Dafydd Ifans, 1992). Ymhlith y cyfieithiadau Saesneg gellir nodi The World of Kate Roberts - Selected Stories 1925 - 1991 (cyf. Joseph P. Clancy, 1991), Feet in Chains (1977) a The Living Sleep (1976). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment