James Kitchener Davies
Disgrifiadau
James Kitchener Davies (1902-1952). Bardd a dramodydd. Magwyd ef ar dyddyn ger Cors Caron, Car., a'i addysgu yn Ysgol Sir Tregaron ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1926 ymsefydlodd yng nghwm Rhondda ac yno y treuliodd weddill ei oes yn athro Cymraeg yn ysgolion y cwm ac yn weithiwr diflino dros achos Plaid Cymru. Daeth i fri fel dramodydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1934 gyda'i ddrama dair-act Cwm Glo (1935) sy'n ymdrin â rhai o ganlyniadau cymdeithasol echrydus y Dirwasgiad yng nghymoedd de Cymru. Cydnabu'r beirniaid ddawn yr awdur, ond barnent fod y ddrama'n anaddas i'w pherfformio oherwydd ei moesoldeb amheus, ac ataliwyd y wobr. Bu cyffro mawr ar y pryd a phan gyhoeddwyd y ddrama aii pherfformio'n llwyddiannus wedyn yn Abertawe ac yna ar hyd a lled y de, parhaodd y dadlau ynglŷn â hi yn y wasg Saesneg a Chymraeg. Ar wahân i Cwm Glo, dwy brif orchest Kitchener Davies yw ei ddrama fydryddol Meini Gwagedd (1945) a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol 1944, ac yn bennaf oll efallai ei bryddest, 'Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu' (1953), a ddarlledwyd gan y BBC a'r bardd ar ei wely angau. Cerdd ymholiadol, hunangofiannol yw hon ac ystyrir hi yn un o'r pryddestau grymusaf a gyfansoddwyd yn yr ugeinfed ganrif. Golygodd ei weddw Mair I. Davies gasgliad gwerthfawr o'i brif gerddi a dramâu, sef Gwaith James Kitchener Davies (1980). Ceir manylion pellach yn y nodyn gan John Rowlands yn Profiles (1980) ac yn rhifyn arbennig Poetry Wales (Gaeaf, 1982) a neilltuwyd i drafod gwaith Kitchener Davies; gweler hefyd yr erthygl gan Alun Llywelyn-Williams yn Lleufer (cyf. IX, 1953) a'r astudiaeth gan Ioan Williams yn y gyfres Llên y Llenor (1984). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment