Rhaeadr y Bedol
Disgrifiadau
Rhaeadr y Bedol - Genedigaeth o'r Gamlas
Meistri Haearn Sir Amwythig, William Reynolds o Ironbridge yn bennaf, oedd yn gyfrifol am hybu camlesi, er mwyn i wasanaethu'r sir a'r Gororau. William Jessop oedd y peiriannydd dewisedig a gafodd ei benodi i arolygu ffyrdd posibl i'r gamlas newydd. Cafodd ei ffordd gynigiedig gyntaf rhwng Wrecsam a Rhiwabon ei gwrthod oherwydd anawsterau tiroedd a'r gost ddisgwyliedig. Roedd rhaid iddo ddod o hyd ffordd arall a'r ffordd bresennol yw'r canlyniad a gafodd cydsyniad Brenhinol ar Ebrill 30fed 1793. Un o'r problemau sy'n mynychu unrhyw system gamlas yw sut i gadw cyflenwad dda o ddŵr. Pob tro mae'r llifddor yn cael ei ddefnyddio, mae miloedd o alwyni o ddwr yn cael eu defnyddio. Cywirodd Thomas Telford y broblem drwy godi cored i dynnu dŵr oddi ar yr afon Dyfrdwy yn Llantysilio. Heddiw, gelwir hwn yn Rhaeadr y Bedol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment