Bythynnod ardal Penffynnon yn y 1920au
Disgrifiadau
Ffotograff o ardal Penffynnon yng Nghwmystwyth yn y 1920au. Mae’n dangos y trigolion a'u bythynnod. Cafodd y bythynnod eu dymchwel yn y 1950au er mwyn gwneud ffordd newydd, sef Ffordd Rhospeiran. Mae’r llun yn adlewyrchu sawl agwedd o fywyd yr ardal fel cyflwr y tai, dillad y bobl a datblygiadau mewn crefydd ac addysg y pentre rhwng 1800 a 1950. Yn y cefndir, ar ochr chwith y llun gwelir tŷ gafodd ei hadeiladu ym 1805 fel capel a thŷ capel cyntaf y Methodistiaid. Ym 1835 roedd y gynulleidfa’n rhy fawr i’r adeilad felly adeiladwyd Capel Fynnon wrth ymyl a defnyddiwyd yr hen adeilad fel tŷ annedd. Ym 1862 codwyd to gwreiddiol y capel cyntaf er mwyn rhoi llawr cyntaf i mewn i’w defnyddio ar gyfer ysgol. Nes ymlaen, ym 1870, adeiladwyd Capel Siloam yng nghanol y pentre a defnyddiwyd yr ail gapel, sef Capel Ffynnon, fel Ysgol Bwrdd Cwmystwyth. Ym 1904 adeiladwyd Ysgol y Cyngor Cwmystwyth wrth ymyl Capel Siloam yng nghanol y pentre ac aeth yr hen ysgol yn adfeilion tan 1995 pan blannwyd gardd o fewn i’r hen waliau. Yn y llun noder, hefyd, y ddynes yn eistedd yn nrws y tŷ gyda babi ar ei gliniau, y dillad yn sychu ar ffens y tŷ drws nesaf, y tŷ adar ar dalcen y tŷ ar y chwith a’r ffaith bod y bobl yn amlwg yn gwisgo ei dillad gorau ar gyfer y llun.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment