Mr George Ellis ar gefn 'car gwyllt' a ddefnyddid yn chwarel y Graig Ddu, Blaenau Ffestiniog
Mr George Ellis ar gefn 'car gwyllt' a ddefnyddid yn chwarel y Graig Ddu, Blaenau Ffestiniog
Disgrifiadau
Ffotograff o Mr George Ellis, chwarelwr wedi ymddeol, yn dangos sut i ddefnyddio'r 'car gwyllt' - sedd ar olwynion - a ddefnyddid gan y chwarelwyr i ddod i lawr y tri incléin serth o chwarel Graig Ddu ar eu ffordd adref. Gof y chwarel fyddai'n gyfrifol am wneud y ceir gwyllt fel arfer, a hynny am tua 5 swllt yr un. Roedd y car gwyllt yn ddigon ysgafn i'w gario ar yr ysgwydd rhwng pob incléin. Ar ddiwedd y daith, gerllaw capel Bethania, byddai'r ceir gwyllt yn cael eu rhoi mewn wagen a fyddai'n cael ei dynnu i ben y chwarel, yn barod ar gyfer y diwrnod gwaith nesaf.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment