Carden a ddanfonodd Tom Williams tra'n Garcharor Rhyfel
Disgrifiadau
Ganwyd Thomas Williams ym Mhenmachno ym 1886 ac roedd yn gweithio fel teilwr ym Mae Colwyn pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr. Fe ymunodd â'r Liverpool Scottish Regiment ar 21 Tachwedd 1915 ac fe hwyliodd i Ffrainc ar 9 Ebrill 1916. Cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr ar 30 Tachwedd 1917 yn Honnecourt, wedi iddo gael ei saethu yn ei glun chwith. Fe'i carcharwyd yng ngwersyll Minden, ac fe ddanfonodd y garden hon oddi yno (fe'i hysgrifennwyd ar 6 Ebrill 1918 ac fe'i postiwyd ar 18 Ebrill1918). Mae'r nodyn yn darllen "Dear All Just a few lines to let you know that I have moved from Friedrichsfeld sooner than expected to the farming centre and also I have turned to be a farmer which is a great change from tailoring but one gets used to everything and so far all is well. Please put my regimental number and camp number on all letters. You will notice that I have a new camp number, which is the custom when changing to various Lager's. Look out for some lessons in farming when I shall return which I hope wont be long. Yours etc T Wms." Mae'r cyfeiriad olaf am wersi ffermio yn jôc ar gyfer ei frawd, a oedd yn ffarmwr ei hunan.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment