Skip to main content

Tom Jones o Rosllannerchrugog yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, 1937

Disgrifiadau

Ganed Tom Jones (1908-90) yn Sir Gaerhirfryn ond cafodd ei fagu ym mhentref glofaol Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych. Ym 1937 aeth i Sbaen ac ymunodd â'r Brigadau Rhyngwladol i ymladd ar ochr Llywodraeth Weriniaethol Sbaen yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen (1936-9). Ymunodd dros 2350 o wirfoddolwyr â Bataliwn Prydeinig y Brigadau Rhyngwladol gan ymladd mewn nifer o frwydrau mawr y rhyfel. Yn y frwydr olaf ar lannau Afon Ebro ym mis Gorffennaf 1938, anafwyd Jones a chafodd ei ddal gan y Ffasgwyr. Roedd ei deulu o'r farn ei fod wedi cael ei ladd, ac yn wir cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth, ond newidiwyd y ddedfryd i 30 mlynedd o garchar. Yn y pendraw, cafodd ei ryddhau o'r carchar ym 1940 yn dilyn cytundeb rhwng llywodraethau Prydain a Sbaen. Yn dilyn hyn, cafodd Tom Jones ei alw yn 'Twm Sbaen'.

Ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru, dechreuodd Jones chwarae rhan weithgar yn y mudiad llafur. Cafodd ei benodi'n swyddog llawn-amser gydag Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol (TGWU) yng ngogledd Cymru ac ym 1953, fe'i penodwyd yn ysgrifennydd yr undeb yn rhanbarth gogledd Cymru, gan olynu Huw T. Edwards. Yn dilyn uno rhanbarthau gogledd a de Cymru, daeth Jones yn ysgrifennydd ar yr undeb yng Nghymru. Arhosodd yn y swydd hon hyd ei ymddeoliad ym 1973.

Ffynhonnell: Gwyn Jenkins, 'Obituary: Tom Jones (1908-90)', 'Llafur', cyf. 5, rhif 4 (1991), 109.

Owner:
Flintshire Record Office
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir y Fflint
Copyright Details:
Archifdy Sir y Fflint 2002
Publisher Ref:
GTJ18456
Eitem wedi’i llwytho:
9/9/2011
Date originally created:
1937
Gwelediadau:
3315
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment