Skip to main content

Gwrthdystiad yn erbyn Datgysylltiad yr Eglwys, Wrecsam, 9 Awst 1913

Disgrifiadau

Mae'r ffotograff hwn yn dangos cynrychiolwyr o'r Wyddgrug yn gorymdeithio yn y brotest yn erbyn Datgysylltiad yr Eglwys a gynhaliwyd yn Wrecsam ar 13 Awst 1913. Maent yn cario baner gyda'r geiriau 'Mold - Right is Might and will Prevail'. Mae baner arall yn cael ei gario gan y dyrfa gyda'r geiriau 'England and Wales, One Nation, One Church'.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yr ymgyrch o blaid Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn bwnc canolog ym mywyd gwleidyddol a chrefyddol y wlad. Roedd nifer o Anghydffurfwyr yn ei ystyried yn achos cwbl 'Gymreig', ac fe arweiniodd y Blaid Ryddfrydol Gymreig ymgyrch gref o blaid Datgysylltiad o'r 1880au ymlaen. Fodd bynnag, fel y dengys y ffotograff hwn, roedd nifer o Gymry, gan gynnwys aelodau o'r Blaid Geidwadol ac Eglwyswyr, yn anghytuno â'r safbwynt hwn ac yn gwrthwynebu Datgysylltiad yr Eglwys yn chwyrn.

Yn dilyn cwymp y llywodraeth Ryddfrydol ym 1895, cafodd y mater ei roi o'r neilltu am dros ddegawd, ond wedi ethol llywodraeth Ryddfrydol newydd ym 1906, gyda David Lloyd George yn y Cabinet, rhoddwyd bywyd newydd i'r ymgyrch. Penodwyd Comisiwn Brenhinol i adrodd ar y mater ac ym 1914 derbyniodd Mesur Datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru gydsyniad Brenhinol. Fodd bynnag, yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd y mater ei ohirio unwaith yn rhagor a bu'n rhaid aros tan 1920 cyn i Ddeddf Datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru gael ei phasio.

Owner:
Flintshire Record Office
Crëwr:
unkown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir y Fflint
Copyright Details:
Archifdy Sir y Fflint 2002
Publisher Ref:
GTJ18448
Eitem wedi’i llwytho:
9/9/2011
Date originally created:
13/8/1913
Gwelediadau:
3544
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment