Hanes Katherine
Disgrifiadau
Learning to Breathe Again: Katherine’s Story
I was born in Bogotá, the capital of Colombia, but the place that shaped me most before I came to Wales was Pereira, where the coffee grows. It was warmer there, greener, alive in a different way. I studied tourism, then moved into Ethnic Community Development, working and studying at the same time. I lived alone, paid my rent, and attended evening classes. That independence mattered to me. I built a found family around me, friends who became home.
I came to Wales for love. I met someone from Wales online. He came to Colombia, asked me to marry him, and I said yes. I did not finish my degree, which I still regret, but at the time I believed I was starting a new life. I arrived in Cardiff on a fiancée visa, full of plans for marriage, learning English properly, and building a future together. I remember feeling lucky to be living with the person I loved.
My English was limited then. I could communicate, but once I arrived, I realised how dependent I was on him. The accent was difficult. Outside the house, I struggled to understand people. On the phone, at the doctor’s, applying for jobs, I was frightened. Inside the house, things changed. He became violent. Slowly at first, then clearly. I knew no one in Wales. We lived outside Cardiff in an isolated area with poor transport. I was alone.
The police were involved more than once. One officer asked me if I wanted to live. That question shocked me, not because I did not, but because I had not realised how bad things had become. I believed marriage meant enduring. I thought love meant staying. Eventually, I knew I had to leave.
I went to a refuge. I had no access to public funds and did not understand the system or the paperwork. I remember sitting there while people spoke around me, trying to follow what was happening. I went back once, hoping he would change. He did not. The second time, I left with what I could carry and never returned. I did not know what would happen next. I just knew I could not stay.
What saved me was movement. Even when nothing else worked, I studied. I enrolled on a holistic therapies course in the Valleys. The journey was exhausting, walking to the station, taking trains, then walking again. But I loved it. The accent was strong and I struggled at first, often asking people to repeat themselves. It was embarrassing, but people were patient and kind. They made space for me.
When I could not find work, I created it. I set up a small business offering therapies from home. I cleaned offices early in the morning, starting at four and finishing by ten, then spent the rest of the day studying or seeing clients. It was hard, but it was mine.
Later, I became pregnant. That relationship was also violent, but my daughter came from it, and she is the best thing that has ever happened to me. Motherhood changed everything. It was overwhelming and lonely, especially without family nearby, but friends became my family. Women’s organisations and community groups helped me rebuild.
Over time, I found love that did not hurt. Someone patient, who welcomed my daughter and encouraged me to reconnect with Colombia. We married. I now have three children. Watching them love each other feels like healing made visible.
Wales is my home now; it has given my children opportunities I never had. We speak Spanish at home. My children attend a Welsh-medium school. I have learned some Welsh too. Identity does not have to be one thing. It can stretch.
My life has not gone the way I imagined. But it is real. It is full. And after everything, I have learned how to breathe again.
CYMRAEG
Dysgu Anadlu Eto: Hanes Katherine
Cefais fy ngeni ym Bogotá, prifddinas Colombia, ond y lle wnaeth fy siapio fwyaf cyn dod i Gymru oedd Pereira, lle mae’r coffi’n tyfu. Roedd hi’n gynhesach yno, yn wyrddach, yn fyw mewn ffordd wahanol. Astudiais dwristiaeth, ac wedyn symud i ddatblygu cymunedau ethnig, yn gweithio ac yn astudio ar yr un pryd. Roeddwn i’n byw ar fy mhen fy hun, yn talu rhent, ac yn mynd i ddosbarthiadau gyda’r nos. Roedd yr annibyniaeth honno’n bwysig i mi. Fe wnes i greu teulu o ffrindiau o’m cwmpas, pobl a ddaeth yn gartref.
Des i i Gymru am gariad. Ces i gwrdd â rhywun o Gymru ar-lein. Daeth e i Colombia, gofynnodd imi ei briodi, a dywedais i ie. Wnes i ddim gorffen fy ngradd, sy’n dal yn siom i mi, ond ar y pryd roeddwn i’n credu fy mod i’n dechrau bywyd newydd. Cyrhaeddais Gaerdydd ar fisa dyweddi, yn llawn cynlluniau am briodas, dysgu Saesneg yn iawn, ac adeiladu dyfodol gyda’n gilydd. Rwy’n cofio teimlo’n lwcus iawn i fod yn byw gyda’r person roeddwn i’n ei garu.
Doedd fy Saesneg ddim yn gryf bryd hynny. Roeddwn i’n gallu cyfathrebu, ond ar ôl cyrraedd, sylweddolais faint roeddwn i’n dibynnu arno fe. Roedd yr acen yn anodd. Tu allan i’r tŷ, roedd hi’n anodd deall pobl. Ar y ffôn, wrth y meddyg, yn ceisio am swyddi, roeddwn i’n ofnus. Y tu mewn i’r tŷ, newidiodd pethau. Daeth e’n dreisgar. Yn araf ar y dechrau, wedyn yn amlwg. Doeddwn i ddim yn adnabod neb yng Nghymru. Roeddem ni’n byw y tu allan i Gaerdydd, mewn ardal anghysbell gyda thrafnidiaeth wael. Roeddwn i ar fy mhen fy hun.
Daeth yr heddlu i mewn i’r sefyllfa fwy nag unwaith. Unwaith, gofynnodd swyddog imi a oeddwn i eisiau byw. Fe’m siociwyd gan y cwestiwn hwnnw, nid am nad oeddwn i eisiau, ond am nad oeddwn i wedi sylweddoli pa mor ddrwg oedd pethau. Roeddwn i’n meddwl bod priodas yn golygu dyfalbarhau. Roeddwn i’n meddwl bod cariad yn golygu aros. Ond yn y pen draw, roeddwn i’n gwybod bod rhaid imi adael.
Es i i loches. Doedd gen i ddim mynediad at arian cyhoeddus, ac doeddwn i ddim yn deall y system na’r papurau. Rwy’n cofio eistedd yno tra roedd pobl yn siarad o’m cwmpas, yn ceisio dilyn beth oedd yn digwydd. Es i’n ôl unwaith, gan obeithio y byddai e’n newid. Wnaeth e ddim. Yr ail dro, gadewais gyda’r hyn roeddwn i’n gallu ei gario, a doeddwn i byth yn mynd yn ôl. Doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd nesaf. Roeddwn i’n gwybod yn unig na allwn i aros.
Yr hyn a’m hachubodd i oedd symud ymlaen. Hyd yn oed pan nad oedd dim arall yn gweithio, roeddwn i’n astudio. Cofrestrais ar gwrs therapïau cyfannol yn y Cymoedd. Roedd y daith yn flinedig, cerdded i’r orsaf, trenau, ac wedyn cerdded eto. Ond roeddwn i wrth fy modd. Roedd yr acen yn gryf ac roeddwn i’n cael trafferth ar y dechrau, yn gofyn i bobl ailadrodd eu hunain yn aml. Roedd yn embaras, ond roedd pobl yn amyneddgar ac yn garedig. Roedden nhw’n gwneud lle i mi.
Pan nad oeddwn i’n gallu dod o hyd i waith, fe greais i waith. Sefydlais fusnes bach yn cynnig therapïau o’r cartref. Roeddwn i’n glanhau swyddfeydd yn gynnar iawn yn y bore, yn dechrau am bedwar ac yn gorffen am ddeg, ac wedyn yn treulio gweddill y dydd yn astudio neu’n gweld cleientiaid. Roedd hi’n galed, ond roedd hi’n perthyn i mi.
Yn ddiweddarach, des i’n feichiog. Roedd y berthynas honno hefyd yn dreisgar, ond daeth fy merch ohoni, a hi yw’r peth gorau sydd erioed wedi digwydd i mi. Newidiodd bod yn fam bopeth. Roedd hi’n llethol ac yn unig, yn enwedig heb deulu gerllaw, ond daeth ffrindiau’n deulu i mi. Helpodd sefydliadau menywod a grwpiau cymunedol fi i ailadeiladu.
Dros amser, des i o hyd i gariad nad oedd yn brifo. Rhywun amyneddgar, a groesawodd fy merch ac a’m hannogodd i ailgysylltu â Colombia. Fe briodon ni. Mae gen i dri o blant bellach. Mae gweld nhw’n caru ei gilydd yn teimlo fel iachâd y gellir ei weld.
Cymru yw fy nghartref nawr. Mae wedi rhoi cyfleoedd i’m plant na chefais i erioed. Rydyn ni’n siarad Sbaeneg gartref. Mae fy mhlant yn mynd i ysgol Gymraeg. Rwyf wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg hefyd. Does dim rhaid i hunaniaeth fod yn un peth yn unig. Gall ymestyn.
Dydy fy mywyd ddim wedi mynd fel yr oeddwn i’n dychmygu. Ond mae’n wir. Mae’n llawn. Ac ar ôl popeth, rwyf wedi dysgu sut i anadlu eto.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment