Medaliwn Efydd Indiaidd yn potreadu Hanuman
Disgrifiadau
Medaliwn efydd o’r India yn portreadu Hanuman, mewn ffrâm gron addurnol. Cordyn crogi o fachyn. Darparwyd gwybodaeth bellach fel rhan o’r sesiwn ARAWP yn Rhagfyr 2024 gyda Threftadaeth India’r Deyrnas Unedig. “Y Mwnci Dduw a adeiladodd, yn ôl y sôn, Pont ‘Ramsethu’ rhwng de India a Sri Lanka (Seilón) gyda chreigiau a byddin o fwncïod. Bu hwn yn gymorth i ‘RAM’ allu croesi tuag at Sri Lanka ar draws y môr er mwyn achub ei wraig a oedd wedi ei herwgipio gan frenin cas o’r enw Ravana yn Sri Lanka. Mae’r bont nawr dan ddŵr ond gellir ei gweld ar Fapiau Gwgl. Tueddir i gysylltu Hanuman gyda’r Arglwydd Ram. Gofynnwyd hefyd i Hanuman ddod â phlanhigyn meddyginiaethol o’r enw Sanjeevani o fynydd. Heb allu dod o hyd i Sanajeevani honnir iddo ddod â’r mynydd cyfan yn ôl.
Prynwyd oddi wrth Idris Davies ym 1920
Cyfeirnod yr Amgueddfa CCM 588.004
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment