Skip to main content

Tocyn Siop Drwco, Merthyr Tudful, 1811

Disgrifiadau

Byddai tocyn siop drwco wedi ei dalu fel cyflog. Nid yw cyflogau trwco yn cael eu talu mewn arian confensiynol ond yn hytrach maent yn gyflogau sy’n cael eu talu ar ffurf tocynnau gan adwerthwyr.

Mae cyflogau trwco yn rhan o gyfundrefn sydd wedi ei gwahardd gan nifer o wledydd. Mae cyfundrefn drwco yn twyllo ac/ neu’n ecsbloetio gweithwyr drwy ddarparu gwerth marchnadol is na’r hyn a fyddai fel arfer yn cael ei dalu am yr un gwaith. Mae cyfundrefn drwco’n cyfyngu’r gallu i ddewis sut i wario eich enillion. Dibynna cyfundrefn drwco ar system economaidd gaeedig lle mae gofyn bod y gweithwyr yn rhwym wrth adwerthiant monopoli mewn nwyddau craidd.

Gwaharddwyd y gyfundrefn drwco yn y Deyrnas Unedig ym 1831 pan basiwyd Deddf Drwco 1831. Roedd y ddeddf yn arwyddocaol oherwydd diddymodd ddeddfau blaenorol ac o’i herwydd ehangwyd amddiffyniadau yn erbyn ecsbloetio drwy gyflog, drwy ei wneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr dalu gweithwyr mewn nwyddau yn hytrach nag arian cyfreithiol.

Y ddelwedd ar yr wyneb blaen: Delwedd o ffatri weithredol
Y testun ar yr wyneb cefn: MERTHYR / 5TH SEP. 1811 (gydag olion y gair [TOK]EN yn weladwy a’r llythyren L wedi ei ail-lunio)
Rhoddwyd i’r Amgueddfa yn 2004

Cyfeirnod yr Amgueddfa CCM 593.004

Owner:
Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
CCM.593.004
Eitem wedi’i llwytho:
10/3/2026
Date originally created:
1811
Gwelediadau:
21
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment