Hanes Jia
Disgrifiadau
“Rhywun Arall Fi” Stori Jia
Am nifer o flynyddoedd, ro’n i’n byw bywyd oedd yn edrych yn sefydlog ar y tu allan. Ro’n i’n athro cyswllt mewn prifysgol yn Tsieina, ac fe wnes i addysgu yno am bron i 16 mlynedd. Roedd fy nyddiau’n dilyn yr un patrwm: deffro, mynd i’r gwaith, dod adref, ailadrodd. Roedd yn rhagweladwy ac yn barchus, ac am amser hir, do’n i ddim yn ei gwestiynu o gwbl. Ond o dan y drefn honno, ro’n i’n teimlo fy mod i’n diflannu’n araf. Do’n i ddim yn meddwl am fy mhwrpas fy hun, nac hyd yn oed beth oedd rhyddid yn ei olygu. Ro’n i mewn priodas wael, dros bwysau, ac yn teimlo dan bwysau ofnadwy. Ro’n i’n mynd trwy argyfwng tawel ac anweledig, rhywbeth na allwn ei roi mewn geiriau eto, ond ro’n i’n ei deimlo bob dydd.
Yn 2021, newidiodd rhywbeth. Dechreuais raglen PhD ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a symudais i Abertawe. Do’n i ddim jyst yn dod i wlad newydd. Fe wnes i gamu i fywyd gwahanol, ac yn bwysicach fyth, fe wnes i gwrdd â fersiwn arall ohona fi.
Roedd Cymru’n dawel mewn ffordd oedd yn gadael i mi glywed fy hun eto.
Rydw i’n astudio celf a dylunio, gyda ffocws ar dorri papur Tsieineaidd traddodiadol, nid dim ond fel treftadaeth ddiwylliannol, ond fel ffordd o gefnogi lles. Mae fy ymchwil yn edrych ar sut gall ymarferion celfyddydol trawsddiwylliannol wella iechyd gwybyddol mewn cymunedau yng Nghymru. Trwy weithdai ac astudiaethau achos, gwelais i sut gallai rhywbeth mor dyner â phapur agor drysau i greadigrwydd, cof, a chysylltiad mewn pobl eraill. A dweud y gwir, fe agorodd rywbeth ynof fi hefyd.
Nid stori am ymchwil yn unig yw hon. Mae’n stori am ddychwelyd at rywbeth oeddwn i wedi’i anghofio.
Ces i fy magu mewn tref fach yng ngogledd Tsieina, lle roedd fy rhieni’n ymarfer qigong a tai chi bob dydd. Roedd yn rhan o fywyd bob dydd, mor arferol â gwneud paned. Pan o’n i’n ifanc, ro’n i’n cymryd hynny’n ganiataol, ac yn awyddus i adael fy ngwreiddiau ar ôl i geisio rhywbeth “mwy”. Wrth wneud hynny, collais gyswllt â rhywbeth oedd wedi bod yn fy nghynnal yn dawel ers blynyddoedd.
Wrth fyw yn Abertawe, dechreuais droi i mewn ataf fy hun eto. Dechreuais ymarfer tai chi o ddifrif, nid oherwydd rhaid, ond fel ail-ddarganfod. Yn araf bach, fe deimlais fy meddwl a’m corff yn dod at ei gilydd eto, fel petawn i’n cael fy ailadeiladu. Doedd y traddodiadau roeddwn i unwaith wedi’u diystyru ddim yn hen ffasiwn mwyach. Roedden nhw’n gryf ac yn bwerus.
Un o’r eiliadau mwyaf balch i mi oedd gwneud cais i fod yn ymarferydd yng Nghanolfan Lles Abertawe. Am y tro cyntaf, do’n i ddim yn aros i rywun roi caniatâd i mi. Fe estynnais allan, cynigiais ddosbarth arddangos, a dywedon nhw “ie”. Roedd y “ie” yna’n fwy na chyfle. Roedd yn gadarnhad, ac yn agor drws i bosibilrwydd.
Am ran fawr o fy mywyd, ro’n i wedi teimlo’n gaeth, gan ddyletswydd, ofn, a’r un hen drefn. Nawr, yn fy mhedwardegau, ro’n i’n dechrau eto, nid mewn ffordd ddramatig, ond yn y ffordd bwysicaf. Ro’n i’n dewis byw ar fy nhelerau fy hun.
Mae yna bethau rydw i’n eu colli’n arw, yn enwedig fy nau blentyn sydd dal yn Tsieina. Rydw i’n dal gafael yn y gobaith y bydda i un diwrnod yn gallu dweud, “Mae fy mhlant yn yr ysgol.” Dyna’r frawddeg sy’n byw yn fy nychymyg fel gweledigaeth.
Er bod ansicrwydd am fisâu a’r dyfodol, rydw i’n dal yn gadarn yn fy mwriad. Cerddais i ffwrdd o yrfa ddiogel a’r teitlau oedd unwaith yn fy niffinio. Nawr, fi sy’n fy niffinio fy hun.
Os oes un peth rydw i’n gobeithio y bydd pobl yn ei gymryd o’m stori, dyma fe: nid i’r ifanc yn unig mae trawsnewid. Mae trawsnewid i’r rhai sy’n barod.
Cymru yw fy man ailenedigaeth. A cham wrth gam, rydw i’n cerdded tuag at fywyd sydd wir yn perthyn i mi.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment