Hanes Gustavo
Disgrifiadau
Dod o Hyd i Ddiogelwch a Phwrpas: Hanes Gustavo
Fy enw i yw Gustavo Moreno, a dyma fy stori.
Ces i fy ngeni yn El Salvador, ac cyn dod i Gymru, ro’n i’n byw bywyd y byddai llawer yn ei ystyried yn un da. Ro’n i’n 34 oed, gyda gradd mewn twristiaeth, ac yn gweithio mewn asiantaethau teithio ac yn y maes awyr, lle’r oeddwn i’n arwain tîm o 200 o bobl. Fe briodais yn 2017, ac y flwyddyn wedyn cafodd fy merch Isabella ei geni. Roedden ni wedi’n hamgylchynu gan deulu a ffrindiau, ac yn teimlo’n rhan o’n cymuned. Fe wnes i hefyd chwarae pêl-droed Americanaidd am bum mlynedd a bod yn gapten ar y dîm amddiffyn dros fy ngwlad. Roedd bywyd yn teimlo’n llawn ac yn ystyrlon.
Newidiodd popeth yn 2020.
Pan darodd y pandemig, fe gaeodd El Salvador i lawr. Diflannodd swyddi, a dirywiodd diogelwch. Doedd hi ddim yn ddiogel mwyach. Rwy’n cofio cael trafferth gyda’r penderfyniad i adael, a fy nhad yn dweud wrtha i, “Dy deulu di nawr yw dy wraig a dy ferch. Amddiffynach nhw.” Arhosodd hynny gyda fi. Pan ailagorodd y maes awyr ym mis Medi 2020, fe wnaethon ni’r penderfyniad anoddaf yn ein bywydau. Gadawon ni El Salvador, nid oherwydd ein bod ni eisiau, ond oherwydd bod rhaid.
Teithion ni i’r DU drwy Houston. Roedd ffarwelio â’n teuluoedd, heb wybod a fyddem ni’n eu gweld eto, yn dorcalonnus. Ond fe wnaethon ni ddal gafael mewn gobaith.
Roedd bywyd yng Nghymru fel rholercoster i ddechrau. Roedd y dyddiau cynnar yn hynod o anodd. Roeddwn i wedi astudio Saesneg yn El Salvador, ac roedd fy rhieni wedi buddsoddi llawer yn hynny, ond pan gyrhaeddais yma, prin y gallwn i ddeall pobl. Roedd fy ngwraig yn siarad Saesneg yn well na fi, felly roeddwn i’n dibynnu arni. Roeddwn i’n ei hannog i siarad, i ffonio, i ofyn cwestiynau. Ro’n i’n swil ac yn ansicr, ac roedd popeth yn teimlo’n newydd.
Wrth i ni ddechrau setlo, fe ddysgon ni fod fy ngwraig yn feichiog. Roedden ni’n byw mewn gwesty, yn bwyta bwyd oedd yn anodd iddi yn ystod y beichiogrwydd. Serch hynny, roedden ni’n lwcus. Roedd pobl yno’n garedig iawn. Roedden nhw’n rhannu bara, ffrwythau a jam ychwanegol. Pethau bach, ond roedden nhw’n golygu popeth i ni.
Yn ystod ein dwy flynedd gyntaf, fe’n symudwyd sawl gwaith. Tair gwaith yn Llundain, tair gwaith yng Nghaerdydd, a thair gwaith yn Abertawe. Un noson, am 10 o’r gloch, fe alwodd y Swyddfa Gartref a dweud bod gennym ni awr i symud. Roedd fy ngwraig newydd roi genedigaeth. Roedd ein mab ond yn 20 diwrnod oed, a’n merch ddwy oed yn crio. Edrychodd fy ngwraig arna i a dweud, “Gustavo, dy benderfyniad di yw hwn.” Cofiais beth oeddwn i wedi dweud wrthyf fy hun pan gyrhaeddon ni gyntaf. Byddaf yn mynd ble bynnag y mae Duw yn fy anfon.
Felly, fe wnaethon ni bacio ein bagiau a gadael eto.
Yng Nghaerdydd, cawsom ein rhoi mewn ystafell fudr iawn. Doedd hi ddim yn bosib aros yno, felly treulion ni ein dyddiau mewn canolfannau siopa, yn ceisio cadw’r plant yn brysur, dod o hyd i fwyd roedden nhw’n ei hoffi, a dal gafael mewn gobaith. Roedd hi’n flinedig iawn, ond fe wnaethon ni ddal ati.
Fe wnaethon ni hefyd brofi casineb. Ar fws yn Abertawe, fe weiddiodd gyrrwr a theithwyr eraill arnon ni, gan fygwth fy ngwraig a’n plant. Roedd yn frawychus. Ond gwrthodais adael i hynny ddiffinio ein profiad o Gymru. Roeddwn i eisoes wedi cwrdd â gormod o bobl garedig yma. Fe wnaethon ni roi gwybod am y digwyddiad, a chafwyd canlyniadau. Daeth hynny’n drobwynt i ni.
Dywedais wrth fy ngwraig, “Dylai neb arall orfod mynd trwy hyn.”
Dechreuon ni siarad allan, nid drosom ni’n hunain yn unig, ond dros eraill hefyd. Buon ni’n gweithio gyda sefydliadau fel y Groes Goch Brydeinig, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, a Voices Network. Buon ni’n gwirfoddoli, yn cyfieithu, ac yn cefnogi pobl newydd i sicrhau nad oedden nhw’n teimlo mor golledig ag yr oedden ni unwaith.
Yn y pen draw, cawsom loches. Roedd y broses yn hir ac yn boenus, ond fe newidiodd popeth ar ôl hynny. Cafodd fy ngwraig a minnau swyddi fel swyddogion cymorth cyflogaeth. Gweithiais i gyda CAE, a hi gydag EYST. Buon ni’n helpu pobl o lawer o gymunedau, pobl o America Ladin, y Congo, Tsieina, a chymunedau Mwslimaidd, oherwydd rydyn ni i gyd yn ddynol, ac mae angen cefnogaeth arnom ni i gyd.
Daeth Cymru’n gartref i ni, nid dim ond lle i fyw, ond lle i berthyn.
Fe wnaethon ni sefydlu ein grŵp ein hunain, Wales for All, sydd bellach yn gweithio tuag at ddod yn elusen. Ein nod yw grymuso ymfudwyr ac adeiladu cysylltiadau rhwng diwylliannau. Mae fy ngwraig bellach yn cynnal sesiynau salsa, ac mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n dod yn Gymry. Dyna integreiddio drwy lawenydd.
Un o’r eiliadau roeddwn i fwyaf balch ohoni oedd sefyll ar lwyfan Arena Abertawe, yn siarad mewn cynhadledd ar yr economi werdd. Flwyddyn cyn hynny, ro’n i wedi bod yn eistedd yn y gynulleidfa yn meddwl, “Un diwrnod, hoffwn i fod lan yna.” Wrth siarad â 300 o bobl, yn cyflwyno prosiect ro’n i wedi helpu i’w greu, fe sylweddolais i rywbeth pwysig. Roeddwn i’n gallu gwneud hyn.
Rydw i hefyd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn. Rydw i eisiau i’m plant dyfu lan yn falch o’u hunaniaeth America Ladin a Chymreig. Mae dysgu’r iaith wedi fy helpu i gysylltu’n ddyfnach â’r gymuned leol.
Mae rhai o’r eiliadau mwyaf gwerthfawr i mi yma yn rhai syml. Gwylio fy mab yn cymryd ei gamau cyntaf, bod yno, yn llwyr bresennol. Does dim swm o arian allai brynu hynny.
Mae Cymru wedi rhoi rhythm arafach i fy mywyd. Mae Abertawe’n fy atgoffa o adref. Mae’r môr yn dod â heddwch i mi. Rydw i’n byw’n agos at y traeth, ac wrth edrych arno, rydw i’n teimlo mai dyma lle dylwn i fod.
Rydw i’n colli fy nheulu’n fawr, yn enwedig fy rhieni. Dydw i ddim wedi’u gweld ers pum mlynedd. Rydw i’n colli coginio fy mam a’r cariad yn ei bwyd. Ond mae ffrindiau yma’n coginio gyda’r un gofal, ac weithiau mae’n teimlo fel bod yn ôl wrth ei bwrdd hi.
Yr adegau anoddaf yw pan fo argyfwng gartref ac nad ydw i’n gallu bod yno. Dydy’r boen honno byth yn diflannu. Ond rydw i’n dal i ganolbwyntio ar yr hyn ddysgodd fy rhieni i mi. Cefnogwch eich pobl. Gwasanaethwch eraill.
Dyna fy mreuddwyd. Adeiladu cymuned. Creu cyfleoedd. Helpu pobl i ddod o hyd i urddas, nid trugaredd. Dydyn ni ddim eisiau rhoddion elusennol. Rydyn ni eisiau cyfle.
Cymru yw fy mantell. Fel plentyn yn cuddio dan y blanced i deimlo’n ddiogel, mae’r wlad hon wedi rhoi diogelwch a phwrpas i mi. Nawr, rydw i eisiau diogelu eraill hefyd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment