Hanes Luis
Disgrifiadau
O Lynges Colombia i Fywyd Newydd yng Nghymru
Hanes Luis
Fy enw i yw Luis, ac fe ddechreuodd fy nhaith i Gymru ar ôl gyrfa hir yn Llynges Colombia. Gwasanaethais am ddegawdau, o 1993 tan 2023, gan gyrraedd safle Capten yn y Llynges. Roedd fy ngwaith yn canolbwyntio ar brosiectau amddiffyn, fel adeiladu llongau, dylunio llongau milwrol, ymchwil a datblygu, trosglwyddo technoleg, a chaffael. Roedd yn waith heriol, ond yn waith a oedd yn bwysig iawn i mi.
Yn fy mlwyddyn olaf o wasanaeth, cefais ddewis. Gallwn barhau ar y llwybr tuag at fod yn Admiral, neu gallwn droi at fyd academaidd. Ar ôl llawer o feddwl, a sgyrsiau hir gyda’m teulu, penderfynais ddewis y llwybr academaidd. Gwneuthum gais am gyfle yn y DU, a phan ddaeth hwnnw drwodd, fe benderfynon ni gymryd y cam gyda’n gilydd.
Doedd Cymru ddim yn gwbl newydd i mi. Flynyddoedd ynghynt, roeddwn wedi cwblhau PhD mewn Peirianneg Forol ym Mhrifysgol Manceinion. Ar ôl dychwelyd i Golombia a chyflawni fy ymrwymiad gwasanaeth, deuthum yn Gyfarwyddwr Addysg yn y Llynges. Ochr yn ochr â hynny, parheais i addysgu rheoli prosiectau ar benwythnosau. Un o’r darlithwyr gwadd a wahoddais ar y pryd ddaeth yn gydweithiwr i mi yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Y cysylltiad hwnnw yw’r hyn a’m harweiniodd i Gymru yn y pen draw.
Doeddwn i ddim wrthi’n chwilio’n weithredol am swydd pan soniodd fy nghydweithiwr am y swydd wag, ond apeliodd y syniad ataf. Ar ôl degawdau yn y fyddin, roedd bywyd tawelach, wedi’i ganolbwyntio ar addysgu, yn teimlo’n iawn. Roedd fy nheulu hefyd wedi mwynhau ein hamser blaenorol yn y DU, felly penderfynon ni ddychwelyd.
Cyrhaeddais Gymru ar 31 Ionawr 2023. O’r cychwyn cyntaf, daeth i ar ddraws bobl garedig a groesawgar. Mae bywyd yma’n dawelach, yn wyrddach, ac yn llai prysur na’r dinasoedd yr oeddwn wedi arfer â nhw, fel Bogotá. Rwy’n byw ger Caerdydd, yn agos at gefn gwlad, ond ymhell o straen canolfannau trefol mawr. Mae’r cydbwysedd hwnnw’n gweddu’n dda i mi.
Nid yw ymgartrefu wedi bod yn hawdd bob amser. Yng Ngholombia, mae cyfeillgarwch yn ffurfio’n gyflym, ac mae pobl yn eich gwahodd i’w cartrefi bron yn syth. Yng Nghymru, mae perthnasoedd yn datblygu’n arafach. Mae pobl yn gyfeillgar ac yn gwrtais, ond mae cysylltiadau’n tueddu i aros yn broffesiynol am gyfnod hirach. Nid yw’n well nac yn waeth, dim ond yn wahanol.
Mae cysylltu â’r gymuned Latino-Americanaidd yma wedi helpu. Rwy’n ceisio rhoi rhywbeth yn ôl, cefnogi pobl newydd a’u helpu gyda phethau ymarferol fel tai a bancio. Roedd dod o hyd i gartref yn un o’r heriau mwyaf i ni, gyda llawer o waith papur a phrosesau hir, er i brynu tŷ newydd wneud pethau’n haws yn y pen draw.
Mae fy ngwraig yn byw yma gyda fi, ond mae hi wedi ei chael hi’n anoddach i ymgartrefu oherwydd yr iaith. Mae sgyrsiau un-i-un yn iawn, ond mae sefyllfaoedd grŵp yn fwy heriol. Weithiau rwy’n teimlo’n rhywgedig rhwng eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau lleol a pheidio â’i gadael hi ar ei phen ei hun. Mae ein perthynas ni’n dod yn gyntaf, felly rydym yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser gyda’n gilydd. Mae hynny hefyd wedi golygu bod gwneud ffrindiau wedi cymryd mwy o amser.
O ran gwaith, rwy’n teimlo’n sefydlog. Rwy’n darlithio mewn rheoli prosiectau, yr un pwnc ag yr oeddwn yn ei addysgu yng Ngholombia. Mae’r swydd yn foddhaol ond llawer llai dwys na fy ngyrfa yn y Llynges. Rwy’n gweithio tri diwrnod yr wythnos bellach, gan ganolbwyntio ar addysgu a seminarau, heb y pwysau cyson o gyfrifoldebau milwrol. Mae’n gyfnod mwy ysgafn o’m fywyd, ac rwy’n ei fwynhau.
Mae yna bethau rwy’n eu colli’n fawr o Golombia. Tenis yw un ohonyn nhw. Am flynyddoedd, byddwn yn chwarae bob bore am chwech gyda ffrindiau yn y clwb morol. Yma, mae cyrtiau tenis yn ddrud, mae hyfforddiant yn gostus, ac mae’n anodd dod o hyd i bobl sydd â’r amser i chwarae’n rheolaidd. Rwy’n cadw’n actif trwy gerdded gyda fy ngwraig mewn parciau lleol, ond nid yw’n disodli’r drefn hen.
Rwy’n colli ffrindiau a theulu estynedig hefyd. Mae fy chwaer yn gantores opera ac yn gweithio fel hyfforddwraig lleisiol yng Ngholombia. Mae fy merch yn astudio ym Mharis, ac mae fy mab yn byw yng Ngholombia ond yn ymweld â ni’n rheolaidd. Byddwn yn ymgynnull ym Mharis cyn bo hir i ddathlu eu penblwyddi, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at hynny.
Mae Cymru wedi rhoi ymdeimlad o dawelwch a sefydlogrwydd i mi. Rwy’n mwynhau loncian o amgylch Bae Caerdydd a cherdded yn y mynyddoedd ger Pen y Fan. Mae’r tirweddau gwyrdd yn fy atgoffa o adref. Nid Golombia mohoni, ond mae’n ddigon agos i roi cysur.
Wrth edrych ymlaen, rwy’n gweld sawl llwybr posibl. Gallwn barhau mewn byd academaidd ac anelu at swydd athro llawn. Gallwn addysgu yn y Dwyrain Canol, lle mae cyflogau’n uwch. Neu gallwn ddychwelyd i Golombia i addysgu a bod yn agosach at y teulu estynedig. Am y tro, rwy’n fodlon. Mae amser yn bwysicach i mi na’r arian, ac rwy’n ymddiried y bydd Duw yn ein harwain i’r lle iawn.
Pan oeddwn yn blentyn, roedd daearyddiaeth yn fy swyno. Roeddwn eisiau gwybod prifddinasoedd pob gwlad, eu hafonydd, eu mynyddoedd, a’u diwylliannau. Roedd y chwilfrydedd hwnnw’n adlewyrchu awydd dyfnach i gysylltu â phobl o bob cwr o’r byd. Heddiw, rwy’n teimlo fy mod yn byw’r freuddwyd honno.
Yn fy mhrifysgol, fi yw’r unig berson o America Ladin. Gan gynnwys Brasil, Mecsico ac Ariannin, fi yw’r unig gynrychiolydd. Rwy’n cario’r cyfrifoldeb hwnnw gyda balchder, ond hefyd gydag ymwybyddiaeth. I lawer o bobl yma, efallai mai fi yw’r unig gysylltiad uniongyrchol sydd ganddyn nhw â diwylliant Colombia.
Mae Colombia’n aml yn dioddef o stereoteipiau annheg, wedi’u siapio gan bortreadau yn y cyfryngau. Nid dyna pwy ydym ni. Mae pobl Colombia yn weithgar, yn ddisgybledig, yn gynnes ac yn ymroddedig. Pan fyddwn yn teimlo ein bod yn cael ein cynnwys a’n gwerthfawrogi, rydym yn rhoi popeth.
Rwy’n aml yn gweithio’n hwyr i’r nos, nid oherwydd bod rhaid, ond oherwydd fy mod yn caru’r hyn rwy’n ei wneud. Mae llawer o fewnfudwyr yn rhannu’r ymrwymiad hwnnw. Maent yn cymryd swyddi heriol mewn gofal cymdeithasol, lletygarwch, a meysydd eraill, ac yn gwneud eu gorau. Mae llawer hefyd yn uchel eu haddysg. Bu fy ngwraig yn gweithio mewn gwesty unwaith ochr yn ochr â chydweithwyr oedd â sawl gradd meistr.
Mae hynny’n fy mhryderu. Pe bai pobl yn cael y cyfle i weithio yn y meysydd y maent wedi’u hyfforddi ar eu cyfer, byddai eu cyfraniad i Gymru’n fwy fyth. Ar hyn o bryd, maent yn helpu. Gyda’r cyfleoedd cywir, gallent drawsnewid.
Rwy’n ffodus i allu gweithio yn fy mhroffesiwn. Nid yw llawer eraill mor lwcus. Pe bai cymdeithas yn helpu pobl i ddefnyddio eu sgiliau’n llawn, ni fyddai’r budd mwyaf i’r unigolyn yn unig, ond i Gymru gyfan.
Rwy’n falch o fod yma. Rwy’n falch o gyfrannu. Ac rwy’n gwybod nad wyf ar fy mhen fy hun.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment