Llunio Cenhedloedd Gweithdy 10: Tapestri
Llunio Cenhedloedd Gweithdy 10: Tapestri
Disgrifiadau
Ynghyd â’n ffrindiau o 'Ibero-Ladin-Americanaid' (grŵp cymunedol pwysig sy’n gweithredu o Abertawe ac sy’n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid) fe wnaethon ni gynnal gweithdy tapestri yn Abertawe yn Ebrill 2025. Dan arweiniad Dalila, gwniadwraig brofiadol o Fecsico, daeth pobl leol ynghyd â chyfranogwyr o wledydd fel Colombia, El Salvador, Sbaen, Honduras a Venezuela i gael hwyl yn pwytho baneri eu gwledydd. Y canlyniad oedd mosaig o liwiau a phatrymau hardd, yn dathlu ein gwahanol genhedloedd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment