Hen Felin Cwmystwyth
Disgrifiadau
Lluniau o adfeilion yr Hen Felin ŷd yng Nghwmystwyth. Cysylltwyd yr adeilad gyda’r teulu Howells daeth i ardal Cwmystwyth o sir Drefaldwyn ar ddiwedd yr 17eg ganrif i weithio yn y gweitheydd mwyn. Fe'i defnyddiwyd fel melin ŷd tan ganol y 19eg ganrif ond o fewn degawd dechreuoidd y gweithfeydd mwyn ddirywio. Oherwydd hwnnw symudodd llawer o'r mwynwlwynyr, yn cynnnwys rhai o deulu’r Hen Felin, i gymoedd de Cymru i weithio yn y pyllau glo. Lladdwyd un o'r teulu yn Nhrychineb Cilfynydd 1894 ynghyd â Richard Herbert, bachgen arall o Gwmystwyth. Erbyn heddiw does dim ar ôl o’r Hen Felin – mae wedi lllwyr diflannu. Am fwy o wybodaeth am Yr Hen Felin gweler yr erthygl ‘Melin Pentre, Cwmystwyth gan John a Francesca McLaren yn y cylchgrawn Melin 14 (1998) tud. 70-81. Cylchgawn Cymdeithas Melinau Cymru - https://welshmills.org/copies-of-melin/
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment