Tîm Pêl-rwyd Prifysgol Caerdydd 1946
Disgrifiadau
Casgliad Archif Weledol Prifysgol Caerdydd
Tîm Pêl-rwyd Prifysgol Caerdydd 1946
O Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd
Wedi ei ddigido fel rhan o brosiect #CrowdCymru
Ffotograff du a gwyn o dîm pêl-rwyd Prifysgol Caerdydd ar gyfer 1946.
Mae’r tîm o ddeuddeg merch, pob un yn gwisgo ffrogiau pinaffor pêl-rwyd, mewn tair rhes, mae’r rhes gyntaf o dair merch yn eistedd ar y llawr â’u coesau wedi eu croesi, mae’r ail res o bedair merch yn eistedd ar gadeiriau ac mae’r rhes gefn o bum merch yn sefyll. Mae menyw ychydig yn hŷn mewn ffrog a bleser streipïog yn sefyll ar y dde. Mae’r ferch sy’n eistedd ar lawr yng nghanol y rhes flaen yn dal pêl gyda “UWALES V SU” arni. Tynnwyd y llun yn yr awyr agored ar laswellt, gydag adeiladau bric a choed yn y cefndir.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment