Sgwrs rhwng Elenora, [Edward] Howell a Caroline Williams o Fferm Ysgiach Ganol, Felindre, Abertawe â Swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, Vicki Thompson
Disgrifiadau
Caroline: Pwy yw hwnna â’r gwn fanna nawr?
Elenora: O, Dici yw hwnna.
Caroline: Ife?
Elenora: Ie, wedi gwisgo lan.
Caroline: O, ‘typical’ Gwyn
Elenora: Na, nage Gwyn, Howell
Caroline: O, chi’n gallu gweld o ble chi’n ei gael e, wrthyn nhw… O! Y ffordd mae e wedi gwisgo a phopeth. Mae pob un wedi cael eu dysgu sut i ddefnyddio gwn, i reoli plaon yn unig, am fod cadnoid ymhobman lan fan hyn. Um, ac os chadwch chi nhw dan reolaeth, maen nhw’n cymryd popeth, fyddan nhw’n dod mas yn y dydd a chymryd llond coeled o ieir ac ŵyn, ac mae’n ofnadwy gweld y peth os yw e yno.
[Edward] Howell: Dyna fe fan’na yn y llun yna.
Caroline: Ond mae pawb wedi cael eu magu i barchu dryll. Eich tad, ondife, gyda’n plant ni, a’r wyrion, os bydde fe’n bygwth, byddech chi wastad yn parchu’r dryll, hyd yn oed os oedd e’n wag, ac os yw e’n llawn, wastad ar ei hanner. A bydde fe’n eu rhybuddio nhw tasen nhw byth yn cerdded gyda gwn llawn, neu ddim yn ei barchu fe, bydde fe’n ei dorri, ac maen nhw i gyd, chi’n gwybod, mae pawb wedi parchu hynny? Ac mae pawb yn gallu, hyd yn oed y merched yn gwybod sut i ddefnyddio dryll, Mae’n ddefnyddiol weithiau.
Caroline: A hwn, pwy yw hwn?
Elenora: Tad-cu.
Caroline: Felly tad-cu Howell. Beth yw ei enw?
Elenore: Howell.
Caroline: O, mae e’n Howell hefyd? Ar ei ôl e gafodd Howell ei enw.
[Edward] Howell: Pa mor bell yn ôl mae’r Howells yn mynd?
Elenore: O, Llewelyn oedd yr hynaf. Enwau hen iawn…
[Edward] Howell: Ie, ond pa mor bell yn ôl mae’r Howells yn mynd?
Elenore: Roedd pum cefnder. Pob un yn Hywel, mae’n debyg.
Caroline: Felly mae gyda chi’r tad-cu Howell. Ie Hywel Gwyn oedd Gwyn. Ac nawr rwyt ti’n Edward Howell, Edward ar ôl Nora, ei dad-cu arall. Do, ni wedi enwi ein mab hynaf yn Howell Thomas. I gadw’r enw Hywel i mewn hefyd.
Caroline: Felly bydde fe wedi cael ei eni tua 1900, fydde fe?
Elenora: Rhywle fanna
Caroline: Ie, achos roedd mam-gu yn 1906…
Elenora: Ie, rownd 1906 neu 1909 gafodd mam-gu ei geni
Caroline: Rhywle fanna, ife?
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment