Sgwrs rhwng Elenora, [Edward] Howell a Caroline Williams o Fferm Ysgiach Ganol, Felindre, Abertawe â Swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, Vicki Thompson
Disgrifiadau
[Edward] Howell: Wel, roedd opsiwn, es i weithio fel mecanydd moduron i ddechrau ac yna des i nôl yn...82/83.. a dwi wedi bod nôl byth er hynny. Pan gymeron ni drosodd, roedd 'da ni ddau ddaliad ar wahân Roedd fy nhad yn ffermio yma, roedden ni'n ffermio draw fan'na. Bu farw fy nhad, ymddeolon nhw felly gymerais i'r cyfan, felly... ie.
Caroline: Ond roeddech chi bob amser eisiau ffermio, ond oeddech?
[Edward] Howell: Oeddwn, roeddwn i bob amser am ddod nôl
Caroline: Hyd yn oed pan oeddech chi'n gweithio...
[Edward] Howell: Oeddwn, penwythnosau a nosweithiau ac ati
Elenora: Doeddet ti ddim am ddod nôl i ffermio, ond..
[Edward] Howell: Ro'wn i eisiau dod nôl.
Caroline: Doedd Geraint ddim yn mo'yn dod nôl oedd e'?
[Edward] Howell: Nag oedd, daeth fy mrawd ddim nôl.
Caroline: Achos bod dau ohonyn nhw.
[Edward] Howell: Wel ie, 'dyn ni wedi bod nôl byth er hynny. Ond mae'n amlwg, dyw prisiau stoc ddim yn gadael i fi aros gartref amser llawn, felly dwi'n mynd nôl mas i weithio wedyn. Dwi'n gweithio yng Nghaerfyrddin, dwi hefyd yn gweithio ar fferm leol, sydd tua phedair milltir i lawr yr heol.
Caroline: Rydych chi'n borthmon.
[Edward] Howell: ...yn borthmon bryd hynny yng Nghaerfyrddin, a dwi fan'na dridiau'r wythnos felly mae'n cymryd cryn dipyn o'm hamser, ac ar benwythnosau rwy'n rhydd i wneud pethau gartref. Ond gwaith tymhorol yw e', felly dwi yn cymryd amser bant chi'n gwybod?. Ydw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment