Sgwrs rhwng Elenora, [Edward] Howell a Caroline Williams o Fferm Ysgiach Ganol, Felindre, Abertawe â Swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, Vicki Thompson, am odro, creu menyn a defaid!
Disgrifiadau
Elenora: Roedd modryb Gwyn yn byw lan yng Ngwynfe a daeth hi i lawr o Bontsenni i Wynfe i ffermio. Roedden ni’n lot o blant bryd hynny, ac ro’n i’n gyfeillgar â’i gyfnither e. Ac felly roedd e’n dod lan i ymweld a dyna ni.
Caroline: Mae hi hefyd yn dod o gefndir ffermio…?
Elenora: Dwi’n dod o ardal ffermio. Roedd gan fy nhad fferm.
Caroline: Beth oeddech chi’n ffermio?
Elenora: Defaid, a godro eto, gwneud menyn. Roedd Mam yn gwneud menyn. Byddai hi’n ei gorddi yn yr hen fuddai bob wythnos neu… ro’n i’n falch eu gweld nhw’n mynd i odro. Fe wnaeth fy mrawd wneud hi / gafodd e sied i’r gwartheg bryd hynny, i fynd i odro, chi’n gwybod? Mae’n llawer gwell na gwneud menyn, ond roedd y menyn yn hyfryd.
Caroline: Ai dyna sut ddechreuoch chi gyda’r defaid fan hyn? Oedd y defaid yma pan briodoch chi?
Elenora: Na, brynon ni ddefaid yng Ngelli Cwm.
Caroline: Felly, dyna sut aethon ni i mewn i’r defaid?
Elenora: Ie, ie.
Caroline: Eich bai chi, te?
Elenora: Ie, fy mai i.
Caroline: Ie, achos roedd eitha lot o ddefaid gyda ni ar un adeg, on’d oedd? Ac wedyn bydden ni’n eu troi nhw mas ar y mynydd, a’r cyfan fydden ni’n ei wneud yn ein hamser sbâr fyddai naill ai’u casglu neu fynd â nhw mas, roedd y rhedyn yn tyfu’n dalach a thalach a… Ondife? Dreulion ni ache, on’d do? Mas ar y mynydd, yn casglu defaid, yn hel i hwn a’r llall.
Elenora: Do, wnaethon ni. Do.
Caroline: Hel i mewn i hwn a’r llall
Caroline: Ac wedyn ddaethoch chi lawr fan hyn yn 1959, ondife?
Elenora: 1959
Cyfwelydd Vicki Thompson: Oedd e’n wahanol? Rhwng y ddwy fferm?
Elenora: Wel lot o wahaniaeth rhwng godro a gwneud menyn, ondife? Ro’n i’n mwynhau’r ddau, cofiwch, ond troi’r hen fudai bob wythnos… roedd hi’n, roedd yn rhaid gwneud bob wythnos, a’r menyn. Ie.
Caroline: Byddai Nora’n gyrru’r tractors, popeth. On’d oeddech chi?
Elenora: O, oeddwn. Byddwn i’n arfer gyrru wrth wneud silwair fan hyn. Byddai fy mam yng nghyfraith yn gofalu am y plant, pan o’n i’n torri’r silwair...
Caroline: A gwair mewn bêls bach hefyd, ife?
Elenora: Ie.
Caroline: Achos dim ond gwair oedd i ddechrau, ondife? Ac wedyn y daeth silwair, ife?
Elenora: Ie, daeth y silwair, ac wedyn y bêls crwn, chi’n gwybod?
Caroline: Mae’n llawer haws, on’d yw e?
Elenora: Ydi, llawer haws. O leiaf gallwch chi ddefnyddio tractors i wneud y gwaith, chi’n gwybod. Ie, dyna ni.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment