Mae Roland Pritchard, Fferm Castell Weble, Llanrhidian, Gŵyr yn sgwrsio â Swyddogion y Cynllun Datblygu Gwledig Sian Green a Vicki Thompson am gefndir y teulu a chenedlaethau'r dyfodol – 3
Disgrifiadau
Roland: Felly, fe brynon nhw fe yn y 60au, roedd fy nhad yn eithaf ifanc bryd hynny, dyna’i dro cyntaf e, ond o’r hyn alla i ei gofio, roedd yn eitha rhad ar y pryd, ac roedd y cyfraddau llog ond tua 2%, felly fe wnaeth hynny ei alluogi i ddechrau dringo’r ysgol ffermio. Ac roedd e’n ffodus iawn mewn gwirionedd oherwydd yn fuan ar ôl iddo fe brynu’r fferm, enillodd e swm eitha sylweddol o arian ar y ‘Premium Bonds’ ac fe wnaeth hwnnw ei alluogi i brynu stoc i’r fferm, sy’n eithaf anhygoel. Dwi’n meddwl ei fod e’n rhywbeth fel mil o bunnoedd enillodd e, ond gallai hynny brynu lot… lot o arian bryd hynny. Felly gafodd e hwb dechreuol mawr felna, ac yn amlwg dwi wedi elwa o hynny yn y tymor hir hefyd.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Felly yn amlwg mae eich meibion chi wedi dod i mewn i’r fferm nawr, ydyn nhw wastad wedi bod eisiau ffermio?
Roland: Na, doedd dim un o’r ddau eisiau bod yn ffermwyr ar un adeg. Aeth y mab hynaf, pan oedd e yn ei ugeiniau, i Awstralia am flwyddyn neu ddwy, a doedd dim rhyw ddiddordeb mawr gydag e mewn ffermio ar y pryd, ond ar ôl cael dwy flynedd bant, penderfynodd ei fod e eisiau dod yn ôl ar y fferm, ac wrth gwrs fe ddaeth e nôl ac wedyn fe ddechreuon ni Gig Oen Morfa Heli Gŵyr. Ac ymunodd fy mab arall hefyd a daeth e’n rhan o Gig Oen Morfa Heli Gŵyr hefyd. Fe sy’n gwneud yr holl waith o bacio a gwerthu’r cig oen, felly mae’n gyfuniad eithaf da mewn gwirionedd, un mab yn gwneud y ffermio a’r llall yn gwerthu’r cig oen.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Sut mae hynny’n gwneud i chi deimlo o ran bod yn falch?
Roland: Dwi’n falch iawn. Eithriadol falch. Ydy, mae’n wych gweld traddodiad teuluol yn cael ei gynnal am genhedlaeth arall.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Ydych chi’n teimlo fod llawer o bwysau, dyweder, gan eich cyndeidiau, i gadw’r traddodiad hwnnw i fynd gyda’r fferm, i gadw’r fferm yn y teulu?
Roland: Dwi ddim yn siŵr a oes pwysau fel y cyfryw, oherwydd yn amlwg, fydden nhw ddim ynn gwybod beth yn union oedd yn digwydd nawr, ond dwi’n meddwl, pe baen nhw’n gwybod y bydden nhw’n eithriadol o falch hefyd. Bydden nhw wrth eu bodd.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Sy’n ardderchog. Dwi hefyd yn gwybod fod wyrion gyda chi, sy’n hyfryd, ac ydyn nhw’n dangos diddordeb brwd pan fydd yr ŵyn yn dod…?
Roland: Maen nhw braidd yn ifanc ar hyn o bryd, dim ond un oed yw un, ac mae gyda ni un sy’n dair ac un wyth mlwydd oed hefyd. Maen nhw’n dwlu dod i’r fferm. Mae hi braidd yn gynnar i weld beth fydd yn digwydd, ond bydden nhw’n mwynhau.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Fyddech chi’n gobeithio y gallech chi eu hannog nhw?
Roland: Wel, wrth gwrs, dyna sut mae hi’n mynd, a, chi’n gwybod, byddai’n wych pe gallen nhw ddal ati ar ein holau ni, ond amser a ddengys, gawn ni weld beth fydd yn digwydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment