Skip to main content

Mae Roland Pritchard, Fferm Castell Weble, Llanrhidian, Gŵyr, yn sgwrsio â Swyddogion y Cynllun Datblygu Gwledig Sian Green a Vicki Thompson

Disgrifiadau

Cyfwelydd Vicki Thompson: Allwch chi ddweud wrthym am y ffilmio sydd wedi digwydd?
Roland: Gallaf, ni wedi bod yn ffodus iawn, ers i’r cyhoeddusrwydd ddechrau, ac efallai cyn hynny, mae sawl rhaglen deledu wedi bod eisiau dod i wneud eitemau am y Morfa, ac am mai ni yw’r cwmni mwyaf adnabyddus sbo, wel, ym Mhrydain o ran y Morfa Heli, mae gyda ni… eithaf lot o raglenni. Coast gyda Neil Oliver, fe ddaeth e i mewn, gwneud eitem fawr, aethon ni mas ar y morfa, casglu’r defaid, ffilmio hynny, ac wedyn ddaethon ni â nhw mewn a chael bach o farbeciw gyda nhw a’r pethau braf felna. Mae’n dda iawn a dweud y gwir, ac roedd yn ddarn arall o gyhoeddusrwydd da i ni.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Fyddwch chi’n cael llawer o gogyddion gwahanol yn dod i ffilmio?
Roland: Byddwn, ni wedi cael eithaf… bydd yn rhaid i fi feddwl pwy ydyn nhw nawr.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Sian a Shauna?
Roland: Sian a Shauna, ie, wrth gwrs. Um… gadewch i fi feddwl nawr… pwy yw’r bachan yn Padstow?
Cyfwelydd Vicki Thompson: Rick Stein?
Roland: Rick Stein…
Cyfwelydd Vicki Thompson: Dwedwch wrthym am gwrdd â Rick Stein.
Roland:…gadewch i fi feddwl am ragor o enwau… roedd Countryfile gydag… Adam Henson?...reit, ni wedi rhoi’r enw yna ar gof, dyna ddigon o enwau ta beth, alla i ddim gollwng mwy… reit, gadewch i fi feddwl beth ddigwyddodd gyda Rick Stein. Gawson ni un diddorol gydag un cwmni teledu o Wlad Belg, alla i ddim â chofio’r enw nawr, ond ar y pryd roedd ci defaid tair coes gyda ni, yn anffodus roedd e wedi torri’i goes yn un man, ac fe ddaethon nhw i ffilmio ac yn amlwg roedd y ci’n dal i weithio ar y morfa ac yn casglu’r defaid ar dair coes, ac fe gawson ni bobl o Wlad Belg wedyn yn galw yn y fferm, eisiau gweld y ci teircoes, ac roedd hynny cyn iddyn nhw ddangos y rhaglen ym Mhrydain. Felly, gawson ni dipyn o syrpreis pan ddaeth y bobl hyn o Wlad Belg lan, ac eisiau gweld y ci teircoes yna, doedden ni ddim yn hollol siŵr pam roedden nhw eisiau’i weld e. Ac roedd hynny’n ddiddorol.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Hoffech chi siarad am y llun o’ch mam a’ch tad, a chrybwyll eu henwau? Er mwyn i ni roi hwnna, achos roedden nhw’n ffermio, on’d oedden nhw?
Roland: Ie, mae gen i lun o fy nhad-cu yn rhywle. Nawr, dyma un o fy mam a nhad, maen nhw’n amlwg wedi bod i ryw ddigwyddiad ryw noson. Yn amlwg, roedd fy nhad yn ffermio o mlaen i, a Mam yn cynnal y tŷ, cynnal siop y castell, fe sefydlon nhw bopeth yn dda i fi, chwarae teg.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Pryd ddechreuon nhw ffermio? Wnaethon nhw ei gymryd e mlaen gan… eu rhieni?
Roland: Wel, brynodd fy nhad a’i dad e y fferm hon ar ddechrau’r 1960au, a doedd dim ffarm ganddyn nhw cyn hynny.

Owner:
Swansea Council/ Roland Pritchard
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
2022
Gwelediadau:
16
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment