Mae Roland Pritchard, Fferm Castell Weble, Llanrhidian, Gŵyr, yn sgwrsio â Swyddogion y Cynllun Datblygu Gwledig Sian Green a Vicki Thompson
Disgrifiadau
Roland: Dwi’n edrych ar rai o’r hen luniau o’r fferm, a galla i weld y llun hwn o Mam a Dad, a fi pan oeddwn i’n fabi. Rydyn ni’n amlwg yn y cae gwair yn rhywle. Roedd hi’n beth traddodiadol bryd hynny i fynd o gwmpas y cae gwair gyda phicwarch a thacluso’r rhesi, felly dwi’n tybio taw dyna mae Dad yn ei wneud.
A nawr rydyn ni’n symud ymlaen, dyma’r gaeaf. Mae bwydo’r defaid yn amlwg yn fwdlyd iawn. Chi’n gweld, mae’r defaid wedi gwneud tipyn o lanast yn y cae, bydden nhw wedi rhoi gwair iddyn nhw. Ddim yn siŵr pa flwyddyn oedd hynny. Um… dyna fi’n cneifio’r defaid. Mae hynny’n mynd yn ôl sawl blwyddyn dda hefyd.
Ac mae gyda ni luniau diddorol iawn o’r eira yn ‘83. Chi’n gweld, gawsoch chi eira. Dydyn ni ddim yn cael eira’n aml ar y fferm, ond, um, pan fyddwn ni’n ei gael, byddwn ni’n cael tomen, a gallwch weld fan hyn mae e reit at ben y glwyd, yn y cae. Dwi’n meddwl fod hwnna yr un peth, yr un adeg, a dyna’r hewl sy’n mynd i’r fferm, ac rydyn ni’n amlwg wedi palu drwy’r eira er mwyn gallu mynd i mewn a mas.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Ddaethoch chi o hyd i unrhyw ddefaid yn yr eira? Fu’n rhaid i chi eu palu nhw mas?
Roland: Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi gorfod eu palu nhw mas. Na, sai’n cofio gwneud hynny. Rhaid eu bod nhw wedi mynd i gysgodi yn rhywel arall yn hytrach nag yn erbyn y coed. Alla i ddim cofio palu’r un mas.
Ac wedyn dyna fi’n wyna’r famog, amser maith yn ôl, mae’n edrych fel pe baen ni wedi cael un oen mas, ac mae hi ar fun cael un arall.
Ac mae gen i, mae’n llun mwy modern nawr. Mae gyda ni’r defaid ar y morfa. Mae… mae heol sy’n mynd mas ar i’r morfa, ac rydyn ni’n gyrru’r defaid mas tra bo’r llanw’n dal i mewn. Mae’r llanw ar ei ffordd mas erbyn hynny, ond doedd e ddim wedi gwagio’n llwyr o’r morfa. Maen nhw’n mynd mas ar hyd yr heol, bob un ohonyn nhw.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Ydych chi wedi colli defaid i lanw’r morfa?
Roland: Um, do, yn y gorffennol. Fel arfer, ein bai ni yw e, neu os yw’r gwynt yn codi’n anarferol ynghanol y nos neu rywbeth a dod â’r llanw i mewn yn llawer uwch nag y bydden ni’n disgwyl, ond rydyn ni’n trio bod yno. Rydyn ni’n gwybod pryd mae’r llanw i fod yn uchel, felly fyddwn ni’n trio bod yno gwpwl o oriau cyn y penllanw er mwyn tynnu’r defaid i mewn i fod yn siŵr. Um, ac fel y dywedais i, galla i gofio amser maith yn ôl i ni golli bwnsied o ddefaid i’r llanw, roedden ni’n rhy hwyr yn cyrraedd.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Ar y morfa, oes tir digon uchel, os ydyn nhw’n cael eu torri bant gan y llanw?
Roland: Na, os ydyn nhw’n cael eu torri bant, dyna’i diwedd hi. Oes, rhaid i ni eu cael nhw i dir uwch cyn i’r llanw ddod i mewn. Mae’r… mae’r morfa ychydig yn wahanol i draeth, dyw e ddim yn dod lan yn araf ble gallen nhw gerdded o’i flaen. Mae gwteri bach yn llenwi, ac unwaith bydd y gwteri’n llenwi, allan nhw ddim â dod i mewn. Felly rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n mynd i’w nôl nhw cyn i’r gwteri lenwi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment