Skip to main content

Mae Richard Pritchard, Fferm Castell Weble, Llanrhidian, Gŵyr, yn sgwrsio â Swyddogion y Cynllun Datblygu Gwledig Sian Green a Vicki Thompson

Disgrifiadau

Roland: Ie, ie, y fferm. Prynodd fy nhad y fferm y fferm hon, pan oeddwn i tua 8 oed, felly byddai hynny yn ôl yn… y 60au. Um, fe ffermion ni fan hyn y defaid a’r gwartheg, wel, a gwartheg godro ar y dechrau hefyd. Roeson ni’r gorau i’r defaid godro’n go glou wedi hynny, ac fe roddon ni’r gorau i’r gwartheg wedyn 15 mlynedd yn ôl hefyd. Felly mae’n… mae wedi newid yn y ffordd yna, ein bod ni wedi mynd yn llwyr at ddefaid nawr, yn enwedig nawr bod gyda ni’r Cig Oen Morfa Heli, ac mae angen cynifer o ddefaid ag y gallwn ni eu cael… ar gyfer y fenter fach rydyn ni newydd ei dechrau.
Cyfwelydd Sian Green: Ydy’r dulliau o ffermio wedi aros yr un peth i bob pwrpas, neu oes llawer o newid yn hynny o beth?
Roland: Um, wel, o ran peiriannau, yn amlwg, mae wedi newid o dractorau bach nawr i’r tractorau 100 ‘horsepower’. Dyna’r prif wahaniaeth, ac… o ran cynhyrchu defaid, fyddai hwnnw ddim wedi newid rhyw lawer, faswn i ddim yn meddwl.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Ydych chi’n teimlo’n gyffredinol fod tirwedd ffermio wedi newid, ac a yw hynny’n beth da?
Roland: Tirwedd ffermio, reit… Um reit, wel, am wn i fod llai o ffermwyr o gwmpas, felly mae’n dilyn wedyn fod ffermydd yn fwy. A dyw hynny ddim yn rhy berthnasol ar Benrhyn Gŵyr, dwi ddim yn meddwl, maen nhw’n tueddu i gadw’u ffermydd yn eithaf bach. Yn amlwg, mae’r duedd i dyfu cnydau oedd yn arfer bod yn Ne Gŵyr wedi… wedi mynd, yr hyn bydden ni’n ei alw’n ‘the vile’, pawb â’i glwt bach o erw, mae hynny wedi symud ymlaen, ond mae e wedi mynd ers nifer go dda o flynyddoedd nawr. Mae’n dipyn o her cystadlu’n ariannol gyda’r ffermwyr mawr, chi’n gwybod, y peiriannau mawr, a doedd hi ddim yn gwneud synnwyr economaidd i ddal ati ar raddfa mor fach. Um… Beth arall sydd wedi newid? gadewch i fi feddwl nawr.
Mae’n bosib bod rhai caeau, caeau bach, wedi cael eu bwrw’n un, felly falle fod rhai perthi wedi mynd. Ond fel dwi’n dweud, dwi ddim yn meddwl fod hynny mor berthnasol yng Ngŵyr ag yw e mewn mannau eraill.

Owner:
Swansea Council/ Roland Pritchard
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
2022
Gwelediadau:
15
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment