Mae Roland Pritchard, Fferm Castell Weble, Llanrhidian, Gŵyr, yn trafod yr hyn y mae statws Enw Tarddiad Gwarchodedig cig oen morfeydd heli Gŵyr yn ei olygu iddo a'i fudd economaidd.
Disgrifiadau
Roland: Roeddem yn falch iawn o gael y PDO, sef Enw Tarddiad Gwarchodedig. Roeddem yn ffodus ein bod wedi gwneud cais amdano bedair neu bum mlynedd cyn, a chymerodd y gwaith papur amser hir. Ac yna, cyflwynwyd Brexit ac roedd oedi mawr ar bopeth. Ac yna, pan gafodd ei gadarnhau o'r diwedd, ni oedd y cwmni cyntaf ym Mhrydain i gael yr enw ar ôl Brexit. Felly cawsom lawer iawn o gyhoeddusrwydd am y statws PDO. Beth mae'n ei olygu yw na all unrhyw un arall werthu cig oen morfeydd heli Gŵyr, oni bai eu bod yn bodloni'r meini prawf llym sydd ar waith gennym.
Felly, os oes gennych gig oen morfeydd heli Gŵyr unman yn y wlad, mae'n dod o fan hyn.
Reit, beth oeddwn i'n mynd i'w ddweud nesaf?
Cyfwelydd - Vicki Thompson: Beth mae'n ei olygu i chi?
Roland: Beth mae'n ei olygu i ni yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod yr holl oen yn cael eu lladd yn ardal Gŵyr. Mae hynny'n bach o broblem oherwydd dim ond un lladd-dy sydd yng Ngŵyr, felly rydym yn gobeithio cynnal perthynas dda â nhw... A hefyd, mae'n rhaid i ni becynnu a labeli'r cig ein hunain, ac mae'n rhaid i ni gadw rhestr o'r holl adegau mae'r defaid ar y gors neu oddi ar y gors, a phryd bynnag mae angen triniaeth arnyn nhw ar gyfer llyngyr neu glêr chwythu neu rywbeth fel hynny.
Felly mae'n broses lem i'w rheoli.
Cyfwelydd - Vicki Thompson: Felly beth mae anrhydedd fel hynny'n ei olygu i chi fel busnes?
Roland: Wel, rydyn ni'n falch iawn ohono, yn amlwg. Ac rydym wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd o hyn yn bennaf, oherwydd mae'n ymddangos bod pawb bellach wedi clywed am gig oen morfeydd heli Gŵyr. Ac fel rydych chi'n dweud, mae'r gwerthiannau wedi cynyddu cymaint ers i ni gael y PDO.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment