Skip to main content

Mae Roland Pritchard, Fferm Castell Weble, Llanrhidian, Gŵyr, yn sgwrsio â Swyddogion y Cynllun Datblygu Gwledig Sian Green a Vicki Thompson

Disgrifiadau

Roland: Reit… Haia, Roland Pritchard ydw i, o Fferm Castell Weblai, Llanrhidian, a fi yw cadeirydd Cig Oen Morfa Heli Gŵyr. Dwi wedi bod yn ffermio gydol fy oes. Cymerais drosodd gan fy nhad lawer o flynyddoedd yn ôl, ac roedden ni’n gwerthu ŵyn, yn genedlaethol, drwy’r martiau lleol. Um… fydden ni’n cymryd lot o arian i mewn ar y pryd, os galla i gofio, tua £20 yr oen, rhywle felna. Ac felly fe benderfynon ni fynd i werthu ein Cig Oen Morfa Heli ein hunain, am ein bod ni wedi clywed bod Oen Morfa Heli’n ennill ychydig bach o bremiwm, a’i fod yn uchel ei barch, yn enwedig gan y Ffrancwyr ar y pryd. Doedd e ddim yn adnabyddus iawn yn y wlad hon bryd hynny, ond, um… ni wedi mynd o fan’na, fe sefydlon ni gwmni cydweithredol bach o’r enw Cig Oen Morfa Heli Gŵyr, ac fe ddechreuon ni wneud 30 - 40 oen y flwyddyn, a nawr rydyn ni wedi adeiladu’r cwmni ac rydyn ni’n gwneud bron i fil o ŵyn y flwyddyn… Rydyn ni’n ffodus iawn o fod wedi ennill statws PDO ein hunain y llynedd, sydd wedi ein helpu’n fawr iawn yn gyhoeddus, ac sydd wedi ein gwneud ni’n adnabyddus yn genedlaethol ledled y wlad. Ac ers i’n henw ni fynd yn genedlaethol, mae’r gwerthiant wedi mynd drwy’r to ac rydyn ni’n eithriadol falch ohono.

Owner:
Swansea Council/ Roland Pritchard
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
2022
Gwelediadau:
15
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment