Ellis Davies ar Miss Blodwyn Hughes o Fferm Cathan, Llangennech, sef menyw a lwyddodd mewn byd gwrywaidd.
Disgrifiadau
Mae Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr yn tynnu sylw at Blodwyn Hughes, cystadleuydd aredig benywaidd arloesol ym Mro Gŵyr (1940au–1950au), a enillodd wobrau’n gyson ac a heriodd bencampwyr gwrywaidd gorau.
Trawsgrifiad:
ED: …Menyw wnaeth lwyddo ym myd y dynion.
Um, mae gen i un darn amdani hi, oes, dyna ni. Yn y cyfnod hwn o 1941 tan ddechrau’r 50au, un cystadleuydd o ardal Gorllewin Gŵyr fyddai wastad yn creu diddordeb oedd Miss Blodwyn Hughes o Fferm Cathan, Llangennydd. Byddai Blodwyn yn cystadlu gyda cheffylau o oedran ifanc hyd nes iddi hi briodi yn 1952. Os bu erioed enghraifft o fenyw yn dal ei phen yn uchel ym myd dynion, wel dyma oedd e. Roedd hi’n aredig ledled Gŵyr, mewn cystadlaethau yn y Crwys, Mwmbwls, Thistleboon, Pennard a Parkmill yn ogystal â chystadlaethau Cymdeithas Gorllewin Gŵyr, a fyddai hi byth yn colli’r rheiny. Prin iawn roedd hi mas o safle’r wobr ariannol, a daeth ei huchafbwynt yn nhymhorau 51/52 pan enillodd hi’r cwpan ddwy flynedd o’r bron, gan guro pencampwyr sylweddol iawn yn Jack Tanner ac Albert Watkins. Tasai hi wedi peri i’w phriodfab aros 12 mis yn hwy, efallai y byddai hi wedi ennill y wobr yn llwyr, ond roedd angen ei hennill deirgwaith i’w hennill ‘outright’.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment