Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr - rôl yr arolygydd
Disgrifiadau
Mae Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr yn trafod y rheoliadau chwistrellu amaethyddol llymach ac achredu ffermydd, gan ddisgrifio sut mae arolygwyr dibrofiad weithiau'n gorfodi rheolau'n rhy anhyblyg, gan achosi gofynion anymarferol i ffermwyr er gwaethaf arferion ffermio synnwyr cyffredin.
Trawsgrifiad:
ED: Wel yn achos chwistrelliadau, os ydyn nhw'n gwneud niwed i fodau dynol, yna roedd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno deddfwriaeth a does dim amheuaeth am hynny, fel chwistrelliad DDT - roedd hwnnw'n beryglus ac roedd yn rhaid iddo fynd. Mae peth o'r ddeddfwriaeth maen nhw'n ei chyflwyno nawr yn mynd yn rhy bell o lawer yn fy marn i, gan ei wneud yn anodd iawn i ffermwyr, er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o ffermydd nawr yn.. o beth yw'r gair amdano? Yn achrededig os hoffech chi, ac yna fe gewch chi bobl yn dod i archwilio'r ffermydd bob blwyddyn i weld bod popeth yn ei le.
Daeth arolygydd ifanc, yn syth o'r coleg mae'n siŵr, i fferm leol yng Ngŵyr, ac roedd tomen o wrtaith fferm yn barod ar y cae i'w wasgaru. A daeth hi yno a dweud "Allwch chi ddim cael stoc yn y cae hwnnw, ac mae'n rhaid i chi osod ffens o gwmpas y gwrtaith fferm fanna, neu gadw'r stoc mas." A meddai ef wrthi "O wel, eu tail eu hunain yw hwnnw, maen nhw wedi bod yn gorwedd ynddo drwy'r gaeaf". Wel doedd hynny ddim o bwys, ond mae'n enghraifft o fynd â phethau i'r eithafion - byddai arolygydd mwy profiadol wedi anwybyddu hynny. Chi'n gwybod, bydd yn cael ei wasgaru yn yr ychydig wythnosau nesaf neu.. beth yw'r siawns? Ond mae achosion lle mae pobl ifanc mas o'r coleg sydd ddim yn gwybod llawer am y peth ac yn dilyn popeth i'r llythyren, ydyn wir...
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment