Skip to main content

Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr - disodli erydr meirch gan dractorau

Disgrifiadau

Mae Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr yn siarad am y newidiadau mewn ffermio o aradr a dynnwyd gan geffylau i dractorau. Mae'n gwneud sylwadau ar y newid dramatig o bŵer ceffylau i dractorau a pheiriannau drud, gan arwain at gaeau mwy, tynnu gwrychoedd, llai o lafur, a dibyniaeth ar chwistrellau modern mwy diogel yn lle cemegau hŷn, mwy peryglus.
Trawsgrifiad:

ED: Wel, newidiodd ffermio pan ddiflannodd y ceffylau achos y ceffylau oedd grym y tir ac roedd yn rhaid i chi gael ‘horsepower’. Yn wahanol i dractor, pan fydd tractor yn dod i ben ei oes, rhaid i chi brynu un newydd, ond gyda cheffylau, roedden nhw’n magu’r peiriant nesaf, felly mae’n llawer haws yn ariannol i gadw i fynd, yn yr hen ddyddiau, nag y mae hi heddiw. Um, roeddech chi’n magu’r un fyddai’n cymryd lle’r hen un, roedd offer yn brin ac yn rhad, roedd yn rhaid cael aradr ac og a braidd ddim arall. Ond heddiw, mae’r offer y tractorau mawr, offer mawr, bydd tractor yn costio rhyw £50,000 - £60,000 heddiw, a’r tŵls yn rhyw £8000 - £10,000 yr un i fynd y tu ôl i’r tractor, felly mae’n ymrwymiad enfawr. Dw i ddim yn gwybod sut mae rhai’n ymdopi, sut maen nhw’n dod o ben o gwbl, rhaid eu bod nhw’n benthyca’r arian, am wn i, ac yn ei dalu’n ôl yn dawel bach, ie?
Cyfwelydd Sian Green: Ac rydyn ni wedi clywed gan rai pobl… y cynnydd mewn maint a’r ffaith fod… llai o bobl yn gweithio nawr, fel roeddech chi’n dweud yn gynt… Wnaeth y newid yna ddigwydd yr un pryd â’r ceffylau, neu oedd e’n fwy graddol wrth i’r peiriannau fynd yn fwy?
ED: Ie, wrth i’r tractor a’r offer fynd yn fwy, byddai perthi’n cael eu dymchwel, caeau’n mynd yn fwy. Cafodd llawer o berthi’u bwrw i ddechrau am fod y broblem gyda’r cwningod. Cyn dyddiau Mycsomatosis roedd cwningod yn bla ofnadwy, a bydden nhw’n bwyta un rhan o dair o’r cae, o leiaf rownd y perthi, a hefyd, ac felly roedd llai o berthi a llai i’w fwyta. Chi’n gwybod, gyda chae mwy, byddai perth o’i chwmpas, ond o leiaf doedd dim perth bob tair neu bedair erw. Felly hwnna oedd y newid mawr.
Wrth i’r tractors ddod, caeau mwy, erydr mwy, tractorau mwy i drin y cae. Ac wedyn daeth y chwistrellwyr i mewn ar ôl newid mawr arall mewn amaeth. Wrth i lafur fynd yn llai, aeth chwynnu â llaw mas a daeth y chwistrellwyr i mewn. Mae chwistrellu’n dal gyda ni o hyd, ond mae e wedi dod yn llawer, llawer mwy diogel nag oedd e 30-40 mlynedd yn ôl. Cafodd lot o’r chwistrellau peryglus eu tynnu oddi ar y farchnad, ac mae rhai cemegau’n llai effeithiol na’r rhai oedd i gael flynyddoedd yn ôl. Dyna’r rhai oedd yn rhaid eu tynnu oddi ar y farchnad, ond mae’r ffaith yn sefyll ein bod ni’n dal i ddefnyddio chwistrellu ond… maen nhw’n llawer mwy diogel nag oedden nhw 20 mlynedd yn ôl.

Owner:
Swansea Council / Ellis Davies
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
2022
Gwelediadau:
21
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment