Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr - nid yw pob aradrwr yn ffermwr!
Disgrifiadau
Mae Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr yn disgrifio sut mae aredig yn denu pobl o lawer o gefndiroedd, gan nodi newydd-ddyfodiaid yn dychwelyd i'r grefft ar ôl ymddeol. Mae'n adrodd sut mae aredig yn denu pobl o lawer o gefndiroedd, gan nodi newydd-ddyfodiaid yn dychwelyd i'r grefft ar ôl ymddeol. Mae'n adrodd sut mae wedi helpu dechreuwr gyda thractor newydd ei brynu trwy drefnu tir ymarfer a chynnig hyfforddiant.
Trawsgrifiad:
ED: Wrth aredig rydych yn cwrdd â phob math o bobl. Nid yw pob aradrwr yn ffermwr.
Dwi wedi adnabod saer coed, trefnwyr angladdau, pob math o bobl, maent yn aredig am eu bod yn ei fwynhau. Ac mae pobl yn gwneud hynny hyd heddiw. Roedd un a ddaeth i'n cystadleuaeth leol yr wythnos ddiwethaf, ei gystadleuaeth gyntaf, roedd yn byw yn Southgate Pennard a doeddwn i erioed wedi cwrdd ag ef tan y diwrnod hwnnw - roedd e’ newydd brynu tractor ac aradr. Bu’n gweithio ar fferm fel dyn ifanc, 45 o flynyddoedd yn ôl, ond yna aeth ar drywydd arall yn ei fywyd. Mae bellach wedi ymddeol ac y awyddus i ddechrau aredig eto felly mae hynny'n neis i glywed, ac roedd wedi fy ffonio cwpwl o nosweithiau wedi hynny. Enillodd y gystadleuaeth ar gyfer y tractor gorau, roedd ganddo dractor hyfryd, tractor Fergie, ond roedd angen iddo weithio ar ei sgiliau aredig, felly aeth ati i’m ffonio i ddweud ei fod yn gwybod fy mod i'n gyn-bencampwr Cymru ac a oedd modd i mi ei helpu?
Felly ffoniais y ffermwr ar y fferm lle cynhaliwyd y gystadleuaeth a dywedodd fod tair neu bedair llain heb eu hawlio gan nad oedd pobl wedi dod, felly dywedodd y gallai fynd yno ac ymarfer os oedd am wneud hynny am bythefnos arall. Dwi’n cwrdd ag ef yno ddydd Gwener ar y safle i roi ychydig o hyfforddiant iddo. Mae hynny'n eithaf neis.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment