Dol gwrth-swffragetaidd
Disgrifiadau
Dol wedi'i gwneud â llaw i hybu'r ymgyrch yn erbyn rhoi'r bleidlais i fenywod. Fe'i gwnaed o ffabrig brown a gwifren, gyda phêl tennis bwrdd yn ben ac wyneb, sbectol a gwallt wedi'u paentio arni ag inc du. Ar y ffedog mae'r geiriau "Votes for Women". Prynwyd y ddol mewn ffair yng Ngorllewin Cymru ym 1995. Dywedodd y gwerthwr iddi ganfod y ddol yn nhŷ ei modryb ar ôl iddi hi farw. Cofiodd fod ei modryb wedi derbyn y ddol yn ddienw drwy'r blwch llythyrau. Roedd menywod wedi bod yn ymgyrchu dros y bleidlais ers canol y 1860au. Roedd ymgyrchwyr milwriaethus a heddychlon yn ymgyrchu yng Nghymru, a'r cyfarfodydd yma rhwng y gwrthdystwyr a'r awdurdodau gyda'r mwyaf tanbaid y tu allan i Lundain. Roedd nifer o fenywod yn gwrthwynebu rhoi'r bleidlais i bawb hefyd, a Ffurfiwyd Cynghrair Genedlaethol y Menywod yn erbyn Etholfraint ym 1908. Enillwyd hawliau pleidleisio cyfartal i ddynion a menywod ym 1928. Rhif caffael: F07.6
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment