Ddoe a Heddiw: Llyn Celyn, Cwm Tryweryn
Disgrifiadau
Cliciwch ar y ddelwedd i'w hehangu, a chymharwch y ffotograffau a dynnwyd ym 1963 a 2011. Mae'r ffotograff cyntaf, a dynnwyd ar 11 Gorffennaf, 1963, yn dangos golygfa o adeiladu'r argae pridd anferth tua'r gorllewin. Mae'r iard adeiladu a chartrefi'r gweithwyr yn y blaendir, o dan yr argae. Sylwch ar gledrau Rheilffordd Y Bala a Ffestiniog gynt ar y chwith, a gaewyd ym 1960 er mwyn caniatáu i'r cynllun fynd yn ei flaen. Mae'n cael ei defnyddio fel ffordd adeiladu, ac ar y dde mae hen ffordd y cwm, hefyd erbyn hyn yn cael ei defnyddio'n ffordd adeiladu, yn rhannu fferm Hafod-fadog a'r ffordd newydd, uwch, gerllaw.
Mae'r ail ffotograff yn dangos Cwm Tryweryn fel y mae heddiw.Adeiladwyd cronfa ddŵr Llyn Celyn rhwng 1960 a 1965, fel rhan o Gynllun Llyn Tegid yn nalgylch Afon Dyfrdwy i gyflenwi Dinas Lerpwl â dŵr cyson. Boddwyd tua 320 hectar o dan 81 miliwn metr ciwbig, a boddwyd pentref Capel Celyn a deuddeg fferm gan y gronfa ddŵr, gan achosi dadlau mawr ar y pryd sy'n parhau heddiw (gweler y stori: a wal 'Cofiwch Dryweryn', ger Aberystwyth.Yn anarferol am gronfa ddŵr sy'n cyflenwi dŵr, mae hefyd yn cynhyrchu 4MW o drydan ar gyfer y Rhwydwaith Cenedlaethol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment