Ddoe a Heddiw: Dociau'r Barri
Disgrifiadau
Cliciwch ar y ddelwedd i'w hehangu a chymharwch y ddau ffotograff.
Doc Rhif 1 yw'r dŵr yn y canol, a welir yn y ddau ffotograff o wahanol onglau. Gellir hefyd gweld adeilad mawr y Swyddfeydd Cyffredinol yn y ddau ffotograff.
Pan dynnwyd y ffotograff cyntaf ym 1929, roedd miliynau o dunelli o lo a golosg yn mynd trwy Ddociau'r Barri. Gellir gweld cilffyrdd rheilffordd eang a oedd yn gwasanaethu teclynnau codi ar y ceiau lle llwythwyd llongau â glo a golosg a'u hanfon o amgylch y byd.
Yn yr ail ffotograff, nid yw'r dociau gan fwyaf yn cael eu defnyddio, er bod rhai darnau'n parhau, yn cynnwys y doc sych, y rheilffyrdd ddynesu a llwyfannau carreg teclynnau codi glo'r ceiau. Mae ardal y dociau ar hyn o bryd yn cael ei datblygu ar gyfer siopau a chartrefi.
I ymchwilio ymhellach i olygfa Dociau'r Barri drwy amser, archwiliwch fapio hanesyddol y safle hwn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment