Skip to main content

Dociau'r Barri, 2006

Disgrifiadau

Awyrlun o Ddociau'r Barri a dynnwyd yn 2006.
Cefnogwyd cynllun uchelgeisiol David Davies ar gyfer Dociau a Rheilffordd Y Barri gan berchnogion glo cymoedd Rhondda, Ogwr a Llynfi pan benderfynodd Dociau Bute Caerdydd godi'u tollau geiniog y dunnell - 'the dock built for a penny'. Agorodd y doc cyntaf (Rhif 1) ym 1889, ac roedd yn mesur 1036m o hyd, a hyd at 335m o led. Cwblhawyd adeiladu ail ddoc, i'r dwyrain, ym 1898: mae Doc Rhif 2 yn 1017m o hyd a rhwng 122m a 182m o led.
Roedd y fasnach allforio glo yn y Barri yn ei hanterth ym 1913, pan aeth dros 11 miliwn tunnell o lo a golosg drwy'r porthladd. Roedd cilffyrdd rheilffordd eang yn arwain at declynnau codi ar y ceiau. Mae'r swyddfeydd ysblennydd yn arddull Wren ar ochr dref y dociau, gyda cherflun o David Davies y tu allan iddynt. Mae llawer o adeiladau ac offer ar ôl yn y dociau o hyd, gan gynnwys tŷ pwmp a pheirianwaith hydrolig. Mae pont lithr rhwng dociau Rhif 1 a 3, dociau sych e.e. Bailey's Graving Dock), rheilffyrdd dynesu'r loc môr a llwyfannau carreg y teclynnau codi glo ar y ceiau

Owner:
RCAHMW
Crëwr:
RCAHMW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
13/5/2011
Date originally created:
1/1/2006
Gwelediadau:
1745
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment