Skip to main content

Carchar Abertawe a Chae'r Vetch, Abertawe, 1959

Disgrifiadau

Awyrlun yn dangos Carchar Abertawe a Chae'r Vetch, Abertawe.
Adeiladwyd Carchar Abertawe ym 1861.
Daeth y Vetch yn gartref Clwb Pêl-droed Tref Abertawe (Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe'n ddiweddarach) ym 1912 wedi iddo gael ei ddefnyddio cyn hynny fel maes athletau gan Glwb Athletau Swansea Harriers. Cyn adeiladu'r stadiwm pêl-droed roedd yr Harriers wedi gosod trac seiclo trionglog yno. Caewyd y Vetch yn 2005 pan adawodd Dinas Abertawe i'r stadiwm Liberty Stadium newydd, a bu'n wag yn disgwyl cael ei ailddatblygu tan 2011. Dechreuodd gwaith dymchwel ar 23 Chwefror 2011. Gwnaed arolwg ffotograffig o'r stadiwm gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Owner:
Aerofilms Ltd.
Crëwr:
Aerofilms Ltd.
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
13/5/2011
Date originally created:
1/1/1959
Gwelediadau:
4591
Ffefrynnau:
1

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment