Barddoniaeth am y Rhyfel Mawr gan Sarah Davies o Bencader
Disgrifiadau
Pan yn ei harddegau, fe ysgrifennodd Sarah Davies o Bencader, Sir Gaerfyrddin, y gerdd hon 'Bechgyn Bach Pencader'. Mae'n enwi dros 30 o ddynion lleol a oedd yn ymladd yn y Rhyfel Mawr, ac mae naws llawer o'r gerdd yn rhyfelgar e.e. 'A Tommy Pantygravel / Sydd heddyw dan ei graith / 'Rol bod draw yn y trenches / Yn gwneyd gorchestion waith / Fe laddodd Tom o'r Germans / Do ddegau meddent hwy / Os nol yr aiff e eto fe ladda lawer mwy' Mae darnau eraill yn fwy ysgafn eu naws, e.e. 'O druan bach a'r Kaiser / Cwynfanus fydd ei gan / Pan gwel ef Dai y felin / A'i ddryll yn dod un mlaen' Mae'r cyfan yn byrlymu â theimladau gwladgarol, e.e. 'Mae bleser imi enwi / Lieutenant Jones Pantglas / Yn bennaeth ar ei gatrawd / Mae ef yn mynd i mas / Yn llawn o waed y Brython / Heb ofni'r shots na'r shells / I wneythur stroke anfarwol / Draw yn y Dardanelles'
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment