Skip to main content

Adluniad dychmygol o Gastell Sycharth

Disgrifiadau

Llun pen ac inc heb ddyddiad gan Douglas Hague yn dangos adluniad dychmygol o Gastell Sycharth
Yn Sycharth mae gwrthgloddiau castell canoloesol mewn cyflwr da wedi'u lleoli mewn bryncyn yng ngwaelod cwm Cynllaith o dan ei lethrau coediog serth. Efallai i'r castell gael ei godi mor gynnar â'r ddeuddegfed ganrif, ond nid oes tystiolaeth uniongyrchol. Cafodd ei ddisgrifio'n weniaethus mewn cerdd a ysgrifennwyd tua 1390 a'i losgi ym 1403, ac nid oes hanes pellach.
Mae hwn yn gastell tomen a beili, gyda thomen fawr bridd neu fwnt castell a ffos, 50m mewn diamedr a 10.6m o uchder gyda chopa 26m o ddiamedr, gyda llwyfan feili, 64m ar draws a 32m o ddyfnder ar yr ochr dde-orllewin. Datgelodd cloddfeydd o ran fechan o gopa'r domen ym 1962-3 dystiolaeth o ddau adeilad ffrâm bren, rhan o'r hyn mae'r gerdd yn ei disgrifio'n 'tŷ pren braf uwchlaw bryn gwyrdd'. Byddai adeiladau eraill, yn cynnwys neuadd fawr yr arglwydd, wedi sefyll y tu mewn i'r beili. Mae'r gerdd yn crybwyll melin, pyllau pysgod, cwningar a pharc ceirw yn cynnwys porthdy.

Owner:
Douglas Hague
Crëwr:
Douglas Hague
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
13/4/2011
Date originally created:
1/1/1970 - 1/1/1980
Gwelediadau:
3328
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment