Castell Dinas Bran
Disgrifiadau
Awyrlun yn dangos Castell Dinas Brân
Yn coroni copa Dinas Brân mae adfeilion castell Tywysogion Gogledd Powys o'r drydedd ganrif ar ddeg. Credir i'r castell gael ei godi tua 1270, os nad cyn hynny. Er bod yr adfeilion yn llwm, mae'r castell yn ymddangos ei fod wedi bod yn odidog a moethus, fel y dylai prif gartref tywysog fod. Fe'i llosgwyd gan ei garsiwn ei hun ym 1277 yn ystod trafferthion diwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Gadawyd y castell wedi 1282, pan adeiladwyd castell Holt ar Afon Dyfrdwy yn ganolfan arglwyddiaeth newydd.
Roedd gan y castell gwrt petryalog, tua 82m o'r dwyrain i'r gorllewin gan 35m, wedi'i amgylchynu gan lenfur carreg a ffos anferth wedi'i thorri o'r graig ac isglawdd sgarp ar wahân i ar yr ochr ogleddol lle mae llethrau pendramwnwgl. Ar yr ochr ddwyreiniol fer roedd tŵr mawr petryalog, wedi'i ynysu o'r cwrt gan ffos yn y graig, a dau dŵr porth addurnedig. Hanner ffordd ar hyd yr ochr hir ddeheuol estynnodd tŵr siâp D o fur y cwrt ac mae'n ymddangos yr oedd neuadd rhwng hwn a ffos y tŵr. Roedd adeiladau carreg eraill ar ochr orllewinol y cwrt. Erbyn hyn mae hyn oll yn adfeiliedig.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment