Beibl Cymraeg Ben Williams
Disgrifiadau
Ganwyd Ben Williams yn 1883 i deulu o ffermwyr yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin. Ymladdodd yn Rhyfel y Boer ac yna, yn 1906 ymfudodd i fywyd newydd yng Nghanada. Flynyddoedd yn ddiweddarach dywedodd iddo gwrdd â gwirfoddolwyr o Ganada tra'n gwasanaethu yn Ne Affrica ac mai hwy a'i anogodd ef i fanteisio ar y cyfleoedd yng Ngogledd Orllewin Canada i wŷr â chanddynt brofiad yn y byd amaethyddol. Yn 1914 ymunodd Ben â byddin Canada - ei brofiad fel milwr yn Ne Affrica yn ôl pob tebyg yn sicrhau iddo gael ei godi'n swyddog. Gwasanaethodd bron drwy'r rhyfel i gyd, gan symud i wasanaethu dramor yn gynnar yn 1915. Bu yn rhai o frwydrau mwyaf gwaedlyd Ffrynt y Gorllewin, gan gynnwys Brwydr Vimy Ridge, lle dyfarnwyd iddo'r Groes Filitaraidd am ei ddewrder. Dyma ei Feibl Cymraeg, sydd â nodyn i ddweud ei fod yn Ffrainc ym mis Ionawr 1917. Mae arysgrif ei fam yn ei annog i ddarllen y Beibl.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment