Richard Evans o'r Welsh Regiment a'r Machine Gun Corps
Disgrifiadau
Gwasanaethodd Richard Evans o Abertawe gyda'r Welsh Regiment a'r Machine Gun Corps yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wrth sôn am ei wasanaeth arferai grybwyll Marne, y Somme, Ypres a Choedwig Mametz. Adroddai un stori ddoniol am Goedwig Mametz. Roedd ef a milwr arall ar ddyletswydd yn gwarchod un noson pan welsant gysgod rhywbeth yn symud drwy'r coed. Gwyddent fod milwyr Almaenig o gwmpas yn y cyffiniau, ac felly rhoisant sialens deirgwaith, ond parhâi y cysgod i symud. Felly fe saethant beth bynnag oedd yno. Wedi iddi wawrio aethant allan i weld beth oeddent wedi saethu, gan hanner disgwyl gweld milwr Almaenig. Er syndod iddynt, roeddent wedi saethu carw, ac felly gellid disgwyl cig carw ar y fwydlen y noson honno. Ni soniodd llawer wrth ei deulu am ei wasanaeth, ond wedi iddo ddod yn saethwr, mae'n ymddangos iddo wirfoddoli i fynd i'r Machine Gun Corps, lle daeth yn saethwr cudd. Datgelodd hyn unwaith i nai iddo a oedd yn ystyried ymuno â'r Parachute Regiment. Eglurodd Richard ganlyniadau ymuno â'r Machine Gun Corps. Yn ystod un frwydr dywedodd swyddog wrtho, 'Evans, mae saethwr cudd Almaenig allan fanna. Rwyf am i ti gael gwared ohono'- a bu ef a'r gelyn wrthi am bedair awr yn saethu at ei gilydd. Yn ystod y rhyfel cafodd ei wenwyno â nwy mwstard ac am weddill ei oes dioddefai o'r canlyniadau. Bu'n rhaid i'w deulu ei wylio'n eistedd wrth y tân yn ymladd am ei anadl. Mae'n debyg mai effeithiau'r nwy mwstard oedd yn gyfrifol am y cyfnodau o niwmonia a pliwrisi a ddioddefai yn ystod gweddill ei oes. Gellid meddwl mai rhyddhad oedd ei farwolaeth yn 59 oed, wedi blynyddoedd o ddioddef fel canlyniad i'r rhyfel.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment