Skip to main content

Tystysgrifau Pte Thomas Evans pan yn gadael y fyddin

Disgrifiadau

Ganwyd Thomas Evans ym mis Tachwedd 1885, ac felly roedd yn 28 oed pan ddechreuodd y rhyfel ym 1914. Fe gefnodd ar ei waith fel haliwr mewn glofa yn y Betws (Sir Gaerfyrddin) er mwyn listio ar ddiwedd mis cyntaf y rhyfel, gan ymrestru yn Rhydaman ar 2 Medi. Fe ymunodd â 9fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol (Royal Welch Fusiliers), ond yn ddiweddarach fe drosglwyddodd i'r Loyal North Lancashire Regiment. Fe gafodd ei ryddhau gydag anrhydedd o'r gatrawd ym mis Tachwedd 1917, "being no longer physically fit for War service". Yn ogystal â'r dystysgrif arferol i nodi ei ryddhau, derbyniodd Thomas dystysgrif addurnedig oddi wrth ei gatrawd. Mae'r arysgrifen yn nodi "39863 Private Thomas Evans, Loyal North Lancashire Regiment, having previously served during the war in the Royal Welch Fusiliers. Served with honour and was disabled in the Great War. Honourably discharged on 13th November 1917."

Owner:
Denzil Evans
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
WVP00353
Eitem wedi’i llwytho:
11/3/2011
Date originally created:
1914-1918
Gwelediadau:
656
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment