Skip to main content

Llythyr Griffith Jones i'w rieni yn Y Ffôr, 5 Chwefror 1916

Disgrifiadau

Roedd Griffith Jones yn y 13eg Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (Royal Welch Fusiliers), ac fe aeth i Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915. Ysgrifennwyd y llythyr hwn ar 5 Chwefror 1916: dyma ddetholiad o gynnwys y llythyr (gyda'r sillafu gwreiddiol): Annwyl Dad a Mam a Theulu oll Dyma fi eto yn cael cyfleustra o ysgrifennu ychydig linellau atoch gan fawr obeithio eich bod ar i fynu i gyda fel finau. Wel derbyniais y ddau barcel y bora yma a da iawn oedd genyf eu cael. Mi dderbynais y diary hefyd un bach handy iawn. ... Pan ddof allan y tro yma wyf yn mynd i gael 8 diwrnod o orffwystra a da iawn fydd genyf ei gael hefyd nid yn gorfforol yn unig, ond yna feddyliol. Wel rhaid i mi derfynu heddyw gan anfon fy ngofion anwylaf atoch i gyd. Ydwyf eich mab, Gito, Ta ta Mam Bach

Owner:
Beryl Harris
Crëwr:
Beryl Harris
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
WVP00341
Eitem wedi’i llwytho:
11/3/2011
Date originally created:
1914-1918
Gwelediadau:
587
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment