Llythyr Swyddog SWB ynglŷn â John Dunn
Disgrifiadau
Ganed John Dunn (neu Jack) yn Nowlais tua 1896. Ymunodd â'r Territorials cyn y rhyfel ac wedi i'r rhyfel ddechrau fe'i danfonwyd i Ffrynt y Gorllewin gyda'r South Wales Borderers. Ar noswaith y 31 Hydref 1914, achubodd Jack un ar ddeg o ddynion wedi'u hanafu, tra bod yr Almaenwyr yn saethu ato. Yn ôl Thomas Harris, milwr o Ferthyr oedd ymhlith y rhai a achubwyd, roedd y dynion a anafwyd wedi cael eu gadael ar ôl pan dynnodd y 2nd Battalion Welsh Regiment yn ôl o'u rhengau yn Gheluvelt. Cludwyd Thomas Harris a deg milwr arall un wrth un gan John Dunn yn ôl i ddiogelwch tŷ tu hwnt i'r rhengau, oedd wedi cael ei drawsnewid yn ysbyty. Ysgrifennodd Thomas Harris nifer o lythyrau, fel yr un yma, yn cymeradwyo Jack am ei ddewrder ac yn awgrymu ei fod yn haeddu medal. Dyma nodyn o'r Prif Swyddog, South Wales Borderers, yn dangos fod ymchwiliad wedi'i wneud i geisio cadarnhau'r stori. Fodd bynnag, aflwyddiannus bu ymgais Thomas gan fod yr holl swyddogion-dystion wedi mawr, felly ni chydnabuwyd dewrder Jack. Cyhoeddwyd erthygl yn y Merthyr Express ar ôl marwolaeth John Dunn yn 68, o dan y pennawd "He Should Have Been a VC".
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment