Lythyr gan Thomas Harris ynglŷn â John Dunn
Disgrifiadau
Ganed John Dunn (neu Jack) yn Nowlais tua 1896. Ymunodd a'r Territorials cyn y rhyfel ac wedi i'r rhyfel ddechrau fe'i danfonwyd i Ffrynt y Gorllewin gyda'r South Wales Borderers. Ar noswaith y 31 Hydref 1914, achubodd Jack un ar ddeg o ddynion wedi'u hanafu, tra bod yr Almaenwyr yn saethu ato. Yn ôl Thomas Harris, milwr o Ferthyr oedd ymhlith y rhai a achubwyd, roedd y dynion a anafwyd wedi cael eu gadael ar ôl pan dynnodd y 2nd Battalion Welsh Regiment yn ôl o'u rhengau yn Gheluvelt. Cludodd Jack Dunn Thomas Harris a deg milwr arall un wrth un yn ôl i ddiogelwch tŷ tu hwnt i'r rhengau, oedd wedi cael ei drawsnewid yn ysbyty. Ysgrifennodd Thomas Harris nifer o lythyrau, fel yr un yma, yn cymeradwyo Jack am ei ddewrder ac yn awgrymu ei fod yn haeddu medal. Fodd bynnag, gan fod yr holl swyddogion-dystion wedi marw, ni chydnabuwyd dewrder Jack. Cyhoeddwyd erthygl yn y Merthyr Express ar ôl marwolaeth John Dunn yn 68, o dan y pennawd "He Should Have Been a VC".
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment